Y Bilsen Atal Cenhedlu Gyfun 

Dulliau o gymryd y bilsen

 

1. 21/7 Traddodiadol ( 3 wythnos o gymryd y bilsen, 1 wythnos o beidio)

Y dull arferol o gymryd y bilsen yw cymryd un bob diwrnod am 21 diwrnod ac yna peidio am saith diwrnod. Yn ystod yr wythnos honno byddwch yn cael gwaedlif tebyg i fislif. Byddwch yn ail-ddechrau cymryd y bilsen ar ôl saith diwrnod. Dechreuwch eich pecyn newydd ar yr wythfed diwrnod, hyd yn oed os ydych yn dal i waedu. Dylai hyn fod ar yr un diwrnod o'r wythnos â phan gymeroch chi'r bilsen am y tro cyntaf.

 

2. 84/7 (3 mis o gymryd y bilsen, 1 wythnos o beidio)

Cymrwch 3 pecyn o bils ar ôl ei gilydd, ac wedi i chi gymryd y bilsen olaf yn y trydydd pecyn peidiwch â chymryd dim mwy am 7 diwrnod. Yn ystod yr wythnos honno byddwch yn cael gwaedlif tebyg i fislif. Dechreuwch becyn newydd ar ôl 7 diwrnod, hyd yn oed os ydych yn dal i waedu. Dylai hyn fod ar yr un diwrnod o'r wythnos â phan gymeroch chi'r bilsen am y tro cyntaf.

 

3. Cymryd y bilsen yn barhaus

Dyma ddull newydd o gymryd y bilsen. Mae'n ddull 'oddi ar y drwydded' (h.y. mae'n wahanol i'r cyfarwyddiadau sydd ar y pecyn) ond mae wedi'i gefnogi gan awdurdodau iechyd y DU yn ogystal â Sefydliad Iechyd y Byd.

Cymrwch y bilsen ar yr un pryd bob diwrnod, a phan fyddwch yn gorffen pecyn ewch ymlaen i'r nesaf heb egwyl. Ni fyddwch yn cael mislif, ond os byddwch yn gweld ychydig o waedu anghyson (nid yw hyn yn anarferol) dylech beidio â chymryd y bilsen am 4 diwrnod er mwyn caniatáu eich hun i waedu, ac yna ailddechrau trwy gymryd y bilsen gywir ar gyfer y diwrnod hwnnw, gan adael 4 pilsen heb eu defnyddio yn y pecyn. Os bydd y gwaedu yn parhau am fis neu fwy dylech fynd i weld eich meddyg teulu.

 

Pa bryd ddylwn i ddechrau cymryd y bilsen?

Diwrnod 1 yw'r diwrnod pan fydd gwaedu'n dechrau. Os ydych yn dechrau cymryd y bilsen o fewn 5 diwrnod cyntaf eich mislif, bydd yn effeithiol o'r dechrau un. Os ydych yn dechrau ar unrhyw ddiwrnod arall bydd angen i chi ddefnyddio rhagofalon eraill (condomau) am y 7 diwrnod cyntaf o gymryd y bilsen. Os ydych newydd gael babi, dechreuwch gymryd y bilsen ar ôl 21 diwrnod a bydd yn effeithiol yn syth. Os ydych newydd gael camesgoriad neu erthyliad bydd yn rhaid i chi ddechrau cymryd y bilsen y diwrnod canlynol os ydych am iddi fod yn effeithiol yn syth.

 

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n anghofio cymryd y bilsen?

  • Os ydych wedi anghofio 1 bilsen o'r pecyn: Cymrwch y bilsen pan fyddwch yn cofio amdani, gallai hyn olygu cymryd 2 bilsen o fewn un diwrnod (y bilsen wnaethoch chi ei hanghofio + pilsen y diwrnod hwnnw), ac yna parhewch â gweddill y pecyn fel arfer. Nid oes angen unrhyw ragofalon eraill. 
  • Os ydych wedi anghofio 2 bilsen neu fwy o'r pecyn: Efallai bydd eich amddiffyniad rhag beichiogrwydd wedi'i effeithio. Dylech gymryd y bilsen ddiwethaf wnaethoch chi ei hanghofio'n syth, hyd yn oed os yw'n golygu cymryd 2 bilsen mewn un diwrnod. Dylech adael unrhyw bils eraill wnaethoch chi eu hanghofio yn y pecyn a pharhau â'r gweddill fel arfer, ond bydd angen i chi ddefnyddio dulliau atal cenhedlu ychwanegol, fel condomau, am y 7 diwrnod canlynol.

Efallai bydd angen i chi ddenfyddio dull atal cenhedlu brys os ydych wedi anghofio 2 neu fwy o bils o fewn wythnos gyntaf pecyn ac wedi cael rhyw heb ddefnyddio diogelwch o fewn y 7 diwrnod blaenorol. Ewch i weld eich meddyg teulu neu cysylltwch â'r Gwasanaethau Iechyd Rhyw am ragor o wobdaeth am Ddulliau Atal Cenhedlu Brys.

 

Peryglon o gymryd y bilsen gyfun

Mae rhai risgiau yn gysylltiedig â defnyddio'r bilsen atal cenhedlu gyfun. Fodd bynnag, bychan yw'r risgiau, ac i'r rhan fwyaf o fenywod bydd y buddion yn drech na'r peryglon.

 

Clotiau Gwaed

Bychan iawn yw'r risg o gael clot gwaed, ond bydd eich meddyg yn gwirio i weld a oes gennych ffactorau risg penodol cyn rhoi presgripsiwn. 

 

Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol

Ni fydd y bilsen yn eich amddiffyn rhag heintiau a drosglwyddir yn rhywiol. Dylech ddefnyddio condomau os ydych yn poeni am hyn neu os ydych ar ddechrau unrhyw berthynas newydd.

Os ydych chi'n tybio eich bod chi'n wynebu risg, cysylltwch â'r Gwasanaeth Iechyd Rhywiol trwy ffonio 01656 644120 neu 0300 5550279.

Gallai cymryd y bilsen arwain at gael cur pen, at newidiadau i'ch croen, a newidiadau yn eich hwyliau, os bydd hyn yn broblem ar ôl yr ychydig fisoedd cyntaf, ewch yn ôl at eich meddyg teulu i drafod beth a ellid ei wneud i helpu. Nid oes cysylltiad rhwng cymryd y bilsen a chynnydd mewn pwysau - mae'n fwy tebygol fod hyn o ganlyniad i fwyta mwy.

 

Meddyginiaethau Eraill

Ar y cyfan, ni fyddan nhw'n cael unrhyw effaith ar y bilsen. Fodd bynnag, gallai rhai meddyginiaethau cryf iawn (e.e. y rhai a ddefnyddir i drin HIV/Epilepsi/TB)  a rhai meddyginiaethau dros y cownter eraill (e.e. St John's Wort) ymyrryd â'ch pilsen. Ni ddylai gwrthfiotigau arferol effeithio ar y bilsen, ond os ydych yn pryderu dylech ddefnyddio condomau. Os nad ydych yn siŵr, gofynnwch i'ch meddyg teulu.

 

Dilyniant

I ddechrau arni, byddwch yn derbyn presgripsiwn ar gyfer 3 mis. Os nad oes unrhyw broblemau, bydd angen i chi gael arolwg blynyddol er mwyn gwirio eich taldra/pwysau a'ch pwysau gwaed, oni bai bob newid sylweddol yn digwydd yn eich hanes meddygol. Gellir trefnu apwyntiadau dilynol ar gyfer eich arolygiad pilsen gyda'r nyrs practis.