Sgrinio Serfigol: Prawf Ceg y Groth

Dylai menywod sydd rhwng 24 a 64 oed gael sgriniad serfigol bob 3 i 5 mlynedd er mwyn helpu i atal canser ceg y groth. Nid yw'n boenus ac mae'n broses gyflym a ellir ei chwblhau yma yn y feddygfa.

Os ydych chi'n 24 oed neu'n hŷn ac erioed wedi cael prawf ceg y grôth, neu os oes mwy na 3 i 5 mlynedd wedi bod ers eich sgriniad diwethaf, dylech drefnu apwyntiad gyda'n Nyrs Practis. Ni ddylech dderbyn prawf os ydych ar eich mislif neu 4 diwrnod cyn neu ar ôl eich mislif, gan y gallai hyn effeithio ar y sampl. 

 

Beth yw sgrinio serfigol?

Nid prawf i ganfod canser yw sgrinio serfigol, ond dull o atal canser trwy ganfod a thrin unrhyw annormaledd a allai, heb driniaeth, arwain at ganser yng ngheg y groth.

Cymerir sampl o gelloedd o geg y groth er mwyn eu dadansoddi. Bydd doctor neu nyrs yn defnyddio offeryn (sbecwlwm) i agor gwain y fenyw ac yn defnyddio sbatwla i wneud ysgubiad o geg y groth. I'r rhan fwyaf o fenywod, 'dyw'r broses ond ychydig yn anghyfforddus.

Gall canfyddiad cynnar a thriniaeth atal 75% o ganserau rhag datblygu, ond fel unrhyw brawf sgrinio arall, nid yw'n berffaith. Efallai na fydd bob amser yn canfod y newidiadau hynny mewn celloedd a allai arwain at ganser.

 

Pwy sy'n gymwys i gael prawf sgrinio serfigol?

Mae pob menyw sydd rhwng 25 a 64 oed yn gymwys i dderbyn prawf sgrinio serfigol bob tair i bum mlynedd. Mae system galw ac ail-alw'r GIG yn gwahodd menywod sydd wedi cofrestru â Meddyg Teulu. Mae'r system hefyd yn olrhain unrhyw ymchwiliadau dilynol, ac os bydd popeth yn iawn bydd yn ail-alw'r fenyw i gael ei sgrinio eto ymhen tair i bum mlynedd. Mae'n bwysig felly i bob menyw sicrhau fod gan eu meddyg teulu eu henw a'u cyfeiriad cywir, ac i'w hysbysu os bydd unrhyw un yn newid.

Bydd menywod nad ydynt wedi cael prawf yn ddiweddar yn cael cynnig un pan fyddent yn ymweld â'u meddyg neu glinig cynllunio teulu i drafod mater gwahanol. Dylai menywod dderbyn eu gwahoddiad am sgriniad arferol pan fyddent yn 25 oed.

 

Pam nad yw menywod dan 25 oed yn cael eu gwahodd?

Oherwydd bod newidiadau yng ngheg y groth yn arferol ymhlith yr ifanc. Pe ddyfernir bod y newidiadau hyn yn annormal gallai arwain at driniaeth ddiangen a allai gael effaith ar allu'r fenyw i gael plant. Gall unrhyw newidiadau annormal gael eu canfod yn ddigon rhwydd o 25 oed ymlaen. Mewn achosion prin, gall menywod ifanc gael symptomau megis gwaedu annisgwyl neu waedu ar ôl rhyw. Os yw hyn yn digwydd, dylent ymweld â'u meddyg teulu i gael cyngor.

 

Pam nad yw menywod dros 65 oed yn cael eu gwahodd?

Mae menywod sydd dros 65 oed ac sydd wedi cael tri phrawf negyddol yn olynol yn cael eu tynnu oddi ar y system galw ac ail-alw. Mae hanes naturiol a datblygiad canser ceg y groth yn golygu ei bod hi'n hynod annhebygol y bydd y menywod hyn yn datblygu’r afiechyd. Mae menywod sydd yn 65 oed neu'n hŷn ac sydd erioed wedi cael prawf yn gymwys i dderbyn un.

 

Beth am fenywod sydd ddim yn cael rhyw?

Mae Rhaglen Sgrinio Serfigol y GIG yn gwahodd pob menyw rhwng 25 a 64 oed i gael sgriniad serfigol. Fodd bynnag, os nad yw menyw wedi cael rhyw gyda dyn mae'r ymchwil yn dangos fod y tebygolrwydd o ddatblygu canser ceg y groth yn isel iawn. Ni allwn ddweud bod dim risg, dim ond fod y risg yn fychan iawn. Dan yr amgylchiadau hyn, gallai menyw ddewis gwrthod y gwahoddiad i gael sgriniad serfigol ar yr achlysur hwnnw. Os nad yw menyw yn cael rhyw ar y pryd, ond wedi cael partneriaid gwrywol cyn hynny, byddwn yn argymell iddi barhau â'r sgriniad.

RHAGOR O WYBODAETH AM WASANAETHAU SGRINIO