Profion a Chanlyniadau

Canlyniadau Profion

I dderbyn canlyniadau eich prawf ffoniwch rhwng 12.30pm - 3.30pm ar 01656 754200 os gwelwch yn dda

doctor giving results to patient

 

Blood test image

Profion Gwaed

Prawf gwaed yw pan fo sampl o waed yn cael ei gymryd er mwyn ei brofi mewn labordy. Mae gan brofion gwaed ystod o ddefnyddiau gwahanol, a dyma un o'r profion meddygol mwyaf cyffredin. Er enghraifft, gellir defnyddio prawf gwaed i:

  • asesu cyflwr eich iechyd yn gyffredinol
  • cadarnhau presenoldeb haint gan facteria neu firws
  • asesu pa mor dda y mae rhai organau, fel yr iau a'r arennau, yn gweithredu

Fel arfer, mewn prawf gwaed bydd gwaedydd yn cymryd sampl gwaed o un o bibellau gwaed eich braich, a'r lle arferol i gymryd sampl yw y tu fewn i'ch penelin neu eich arddwrn, gan fod y gwythiennau'n agos i'r wyneb yno. Gyda phlant, fel arfer cymerir samplau gwaed o gefn y llaw. Defnyddir hufen anesthetig ar law'r plentyn cyn cymryd y sampl.

I ddysgu rhagor am brofion gwaed, eu diben, a sut y maent yn cael eu cynnal, ewch i  wefan y GIG.

 

Pelydr-X

Os bydd meddyg yn gwneud cais am Belydr-X ar eich cyfer, byddwch yn derbyn ffurflen gais ac yn cael eich cynghori i ffonio 01656 754296 unrhyw bryd rhwng o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am - 4pm, er mwyn trefnu apwyntiad Pelydr-X yn Ysbyty Cyffredinol Maesteg, sydd y drws nesaf i'r feddygfa. Ar y funud, yn ystod y pandemig coronafirws, rhoddir apwyntiadau ar ddyddiau Mawrth ac Iau rhwng 9am - 12pm. Ewch â'ch ffurflen gais bapur gyda chi i'r apwyntiad os gwelwch yn dda.

Gellir dod o hyd i fynedfa Ysbyty Cyffredinol Maesteg trwy glicio ar y cyfeiriad what3words isod.

Yna bydd y lluniau Pelydr-X yn cael eu hastudio gan dîm Radioleg Ysbyty Tywysoges Cymru, a byddant yn danfon adroddiad i Feddygfa Bron-y-Garn. Maent yn cynghori y gall y broses hon gymryd hyd at bythefnos. Cysylltwch â'r feddygfa i dderbyn eich canlyniadau.

X-ray image

Mae Pelydr-X yn brawf diagnostig cyffredin a ddefnyddir i archwilio y tu mewn i'r corff. Mae Pelydr-X yn ddull effeithiol iawn o ganfod problemau gydag esgyrn, fel toriadau. Gallent adnabod problemau gyda'r meinweoedd meddal yn aml hefyd, fel niwmonia neu ganser y fron.

Os ydych chi'n cael Pelydr-X, byddant yn gofyn i chi orwedd ar fwrdd neu sefyll yn erbyn arwyneb i sicrhau bod y rhan ohonoch sy'n cael ei brofi rhwng y tiwb Pelydr-X a'r plât ffotograffig.

Fel arfer, radiograffydd, gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n arbenigo yn y defnydd o dechnolegau delweddu megis Pelydr-X neu sganiwr uwchsain, fydd yn cynnal y prawf Pelydr-X.

Gallwch ganfod rhagor o wybodaeth am brofion Pelydr-X, sut y cynhelir hwy, eu diben, a'r peryglon trwy ymweld â gwefan y GIG.

 

Profion Eraill