Sgrinio'r Fron

Mae sgrinio'r fron yn cael ei weithredu a'i drefnu gan Bron Prawf Cymru 

 

Beth yw Sgrinio'r Fron?

Mae sgrinio'r fron yn chwilio am ganser y fron cyn i symptomau ddangos. Mae hyn yn cynnwys cymryd mamogramau, sef lluniau pelydr-x o'r fron. Cymerir o leiaf dau fammogram o bob bron.

 

Pam mae Sgrinio'r Fron yn bwysig?

Os byddwn yn dod o hyd i ganser y fron yn gynnar, mae gan driniaeth y siawns fwyaf o fod yn llwyddiannus.

Mae rhaglen sgrinio'r fron ar gyfer menywod dros 50 oed yn unig. Y rheswm am hyn yw bod y risg o ddatblygu canser y fron yn cynyddu gydag oedran. Mae canser y fron yn effeithio ar un o bob naw menyw yng Nghymru ar ryw adeg yn eu bywydau.

breast screening image

 

Pa mor gywir yw Sgrinio'r Fron?

Mamogramau yw'r ffordd fwyaf effeithiol o ddarganfod canser y fron yn gynnar. Fodd bynnag, ni fyddan nhw'n darganfod pob math o ganser y fron. Y rheswm am hyn yw bod rhai mathau o ganser yn anodd iawn i'w gweld ar fammogramau ac nid ydynt bob amser yn cael eu gweld gan y person sy'n darllen y mamogram ac ni ellir gweld rhai mathau o ganser o gwbl.

Edrychir ar bob mamogram (neu cânt eu darllen) gan o leiaf ddau arbenigwr.

Gall menywod sydd mewn mwy o berygl o gael canser y fron oherwydd hanes teuluol elwa o sgrinio yn gynharach.

BRON BRAWF CYMRU

Beth bynnag yw eich oedran, os ydych chi'n poeni am unrhyw broblemau gyda'r fron, cysylltwch â'ch meddyg, a allai eich cyfeirio at glinig y fron eich ysbyty lleol.

 

Pryd mae Menywod yn cael eu Hadalw?

Gofynnwn i un o bob 20 o fenywod yr ydym yn eu sgrinio i ddod i un o'n clinigau asesu oherwydd bod angen mwy o brofion. Gall y profion hyn gynnwys mwy o famogramau, archwiliad clinigol, sgan uwchsain ac efallai biopsi nodwydd.

Nid canser yw'r rhan fwyaf o'r newidiadau sy'n ymddangos ar famogram ac nid oes gan y rhan fwyaf o'r menywod yr ydym yn eu hadalw i'n clinigau asesu yn ein canolfannau yng Nghaerdydd, Abertawe, Llandudno neu Wrecsam ganser. Weithiau mae angen i ni adalw menywod oherwydd problem dechnegol. Byddwn yn dweud wrthych os mai dyna'r broblem.

 

Ymwybyddiaeth o'r Fron

Sut i ofalu am eich bronnau

Mae gofalu am eich bronnau yn rhan o'r angen i ofalu am eich corff yn gyffredinol. Mae'n bwysig dod i wybod sut mae eich bronnau'n edrych ac yn teimlo fel arfer. Bydd hyn yn eich helpu i sylwi ar unrhyw newidiadau sy'n wahanol.

Er yn anghyffredin, gall dynion gael canser y fron felly mae'n bwysig bod dynion yn gofalu am eu bronnau hefyd.

 

Cod 5 Pwynt Gofalu am eich Bronnau

  • Gwybod beth sy'n normal i chi
  • Gwybod pa newidiadau i chwilio amdanynt
  • Edrych a Theimlo
  • Adrodd am unrhyw newidiadau i'ch meddyg teulu heb oedi
  • Mynd i sgrinio'r fron yn rheolaidd os ydych chi dros 50 oed
 

Sut ydw i'n Archwilio fy Mronnau?

Nid oes ffordd gywir neu anghywir o archwilio eich bronnau. Chi sy'n penderfynu beth sydd fwyaf cyfforddus i chi.

Gallwch archwilio yn y gawod, wrth wisgo, gorwedd neu sefyll o flaen drych

Cofiwch wirio pob rhan o'ch bronnau, o'ch ceseiliau hyd at bont eich ysgwydd a rhwng eich bronnau.

 

Beth ddylwn i chwilio amdano?

  • Newid ym maint neu siâp un o'r bronnau
  • Unrhyw grychiad neu bantiau ar y croen
  • Unrhyw newid yn lleoliad y deth - wedi'i thynnu neu'n pwyntio'n wahanol
  • Unrhyw lympiau, mannau wedi'u tewhau neu'n anwastad yn un o'r bronnau neu'r ceseiliau
  • Unrhyw redlif neu waed yn dod o'r deth
  • Brech o gwmpas y deth
  • Chwyddo o gwmpas eich cesail
  • Anesmwythyd neu boen cyson yn un o'r bronnau sy'n wahanol i'r arfer
 

Cod 5 Pwynt Gofalu am eich Bronnau

Os byddwch yn sylwi ar unrhyw newid yn eich bron, dylech siarad â'ch meddyg teulu neu Nyrs y Feddygfa heb oedi. Nid canser yw naw o bob deg newid yn y fron, ond os oes yna broblem, mae'n well ei thrin yn gynnar.