Dietegydd Arbenigol ar gyfer Syndrom Coluddyn Llidus

Os ydych chi wedi profi newidiadau coluddol diweddar gallai'r wybodaeth yn y ddolen GIG isod fod o ddefnydd i chi, a bydd yn eich helpu i benderfynu a ddylech drafod hyn gyda'ch meddyg teulu.

Os ydych chi'n dioddef o rwymedd neu syndrom coluddyn llidus (IBS) gallwch gael gwybodaeth trwy ddilyn y ddolen diet. Rhowch gynnig ar y cyngor dietegol yma am fis i weld a yw'n gwella eich symptomau.

Gall y newidiadau dietegol a awgrymir wella eich symptomau, ond os nad yw hynny'n gweithio gall eich meddyg teulu eich atgyfeirio at Ddietegydd Arbenigol. Mae'r cyngor hwn ar gyfer oedolion yn unig. 

Cyn i'ch meddyg teulu eich atgyfeirio at Ddietegydd Arbenigol:

  • Dylech ddarllen yr holl wybodaeth GIG
  • Dylech fod wedi rhoi cynnig ar y newidiadau dietegol a awgrymir am fis
  • Dylech fod yn barod i wneud newidiadau dietegol dros dro
  • Dylech allu prynu/paratoi eich bwyd eich hun
 

Rhagor o Wybodaeth