Diabetes

Caiff ein cleifion sydd â Diabetes eu gwahodd am wiriad diabetes blynyddol gyda'r nyrs practis, a bydd yn cynnwys gwiriad gwaed ac wrin, prawf pwysedd gwaed a gwirio'r traed.

Mae dau fath gwahanol o Ddiabetes, Math 1 a Math 2.

 

Diabetes Math 1

Mae Diabetes Math 1 yn peri i'r lefel siwgr yn eich gwaed godi'n rhy uchel. Bydd chwistrelliadau inswlin dyddiol yn gymorth wrth reoli lefelau glwcos y gwaed. Nid oes cysylltiad rhwng Diabetes Math 1 ag oedran neu ffordd o fyw. Gallwch ddarllen mwy am Diabetes Math 1 yma 

image depicting diabetes

Diabetes Math 2

Mae Diabetes Math 2 yn gyflwr cyffredin sy'n peri i lefelau siwgr y gwaed godi'n rhy uchel. Efallai bydd rhaid i gleifion newid eu diet a chymryd meddyginiaethau er mwyn rheoli'r cyflwr. Yn aml, mae Diabetes Math 2 yn gysylltiedig â gorbwysau neu segurdod neu hanes teuluol o Ddiabetes Math 2. Gallwch ddarllen rhagor am Ddiabetes Math 2 yma

Desmond Cymru

Rhaglen hunan reoli rhyngweithiol ar lein I bobl sydd â diabetes math 2

DYSGU MWY A SUT I GOFRESTRU

My Desmond

 

Mae rhaglen addysg ar gael i'ch helpu i reoli eich diabetes eich hunain, un ai ar ffurf rhaglen grŵp 6 wythnos (X-PERT) neu fel un sesiwn grŵp. Pe hoffech ddysgu mwy ac archebu lle, cysylltwch â 01443 443066 rhwng 8yb-4yh Dydd Llun- Dydd Gwener.

O reoli diet ac ymarfer corff gall rhai mathau o ddiabetes gilio a gallwch leihau'r defnydd o feddyginiaethau. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am ddiet diabetig a'r bwydydd y dylech eu bwyta .

 

Sgriniad Llygaid Diabetig

Yn ogystal â'ch gwiriad diabetes blynyddol yn y practis byddwch hefyd yn cael eich gwahodd am apwyntiad sgriniad llygaid diabetig yn y gymuned bob blwyddyn. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yma

 

Cyn-Diabetes

Mae cyn-diabetes yn golygu bod siwgrau gwaed yn uwch nag arfer, ond ddim yn ddigon uchel i gael diagnosis o diabetes fath 2. Mae'n golygu bod risg uchel o ddatblygu diabetes math 2 a risg uwch o glefyd y galon. Mae'n annhebygol y byddwch chi'n dangos unrhyw symptomau gyda cyn-diabetes. Trwy wneud newidiadau i ddeiet, cynyddu gweithgaredd corfforol a cholli pwysau, gellir atal neu ohirio tua hanner yr achosion o diabetes fath 2 mewn rhai pobl.