Meddygfa Bron-y-Garn
Oriau Agor | Fy Iechyd Ar-lein | Cysylltu â ni | | |
Got any questions? I'm happy to help
Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (COPD)
Os ydych chi wedi cael diagnosis o Glefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (COPD) byddwch yn cael eich gwahodd am adolygiad blynyddol gyda'r Nyrs Practis. Yn ystod yr adolygiadau hyn bydd y Nyrs Practis yn trafod eich symptomau, yn gwirio eich techneg anadlydd, ac yn optimeiddio eich triniaeth. Yn aml bydd spirometreg yn cael ei gynnal yn ystod yr apwyntiad hwn, am ragor o wybodaeth cliciwch yma. Fel arfer, bydd yr apwyntiad hwn yn para tua 20 munud.
Pan ddaw hi'n bryd i chi gael adolygiad, gallech gwblhau adolygiad ar-lein gan ddefnyddio e-consult cyn eich apwyntiad. Gallwch wirio eich techneg anadlydd eich hun hefyd trwy wylio'r fideos hyn.
Os ydych chi'n ysmygu, rhoi'r gorau iddi yw'r ffordd fwyaf effeithiol o atal COPD rhag gwaethygu. Mae cymorth i'w gael yma
Mae adsefydlu ysgyfeintiol yn rhaglen arbenigol o ymarfer corff ac addysg sydd wedi'i ddylunio i helpu pobl sydd â COPD. Dyma'r un peth sy'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i ansawdd bywyd y rhai sydd â COPD. Pe hoffech chi ddysgu mwy am hyn, trafodwch y mater gyda'r Nyrs Practis yn ystod eich apwyntiad. Mae rhagor o wybodaeth i'w gael yma
Mae cynaliadwyedd o fewn gofal iechyd yn flaenoriaeth hollbwysig, ac ym Mron-y-Garn rydym ni'n archwilio sut y gallem helpu i wella'r amgylchedd. Mae dechrau ailgylchu eich anadlyddion trwy fynd â nhw i fferyllfeydd sy'n cefnogi'r prosiect Complete The Cycle yn newid sy'n hawdd iawn i'w wneud. Mae un math o anadlydd sy'n gyfrifol am gyfran fawr o ôl-troed carbon y GIG, sef yr Anadlydd Dos wedi'i Fesur. Gallai'r cam syml o amnewid y math hwn o anadlydd, pan fo'n briodol, am Anadlydd Powdr Sych fod o fudd sylweddol i'r amgylchedd.
GWYBODAETH AM ANADLYDDION GWYRDD
Rhagor o Adnoddau
- GIG111 Cymru
- British Lung Foundation
- NHS UK
MYNEGAI - Gwasanaethau
- Ymgynghoriad Ar-lein
- Clinigau a Gwasanaethau
- Profion a Chanlyniadau
- Sgrinio'r Fron
- Sgrinio Serfigol
- Gofal Cyflwr Iechyd Hir Dymor
- Gwybodaeth Cyflwr Clinigol
- Atal Cenhedlu
- Brechu Rhag y Ffliw
- Imiwneiddio
- Mân Lawdriniaethau
- Gwasanaethau nad ydynt yn rhan o'r GIG
- Gwneud Cais am Nodyn Salwch
- Gwasanaethau Cyfeirio
- Rhoi'r Gorau i Ysmygu
- Dietegydd IBS
Rydym yn defnyddio cwcis i helpu i ddarparu'r profiad ar-lein gorau i chi. Drwy ddefnyddio'r safle hon, rydych yn cytuno y gallem storio a chyrchu cwcis ar eich dyfais. Polisi cwcis. Gosodiadau cwcis.
Cwcis Swyddogaethol
Mae Cwcis Swyddogaethol wedi'u galluogi yn ddiofyn bob amser fel y gallwn arbed eich dewisiadau ar gyfer gosodiadau cwcis a sicrhau bod y wefan yn gweithio ac yn darparu'r profiad gorau.
Cwcis Trydydd Parti
Mae'r wefan yn defnyddio Google Analytics i gasglu gwybodaeth anhysbys megis nifer yr ymwelwyr sy'n ymweld â'r safle, a'r tudalennau mwyaf poblogaidd. Mae cadw'r cwci hwn wedi'i alluogi yn ein helpu i wella ein gwefan.