Atgyfeiriadau Bydwraig

Atgyfeiriadau Bydwraig

Ydych chi newydd feichiog

Oeddech chi'n gwybod y gallwch chi gysylltu â bydwraig yn uniongyrchol?

 

Nid oes angen i chi ymweld â'ch meddygfa i gael mynediad at ofal mamolaeth.

Sut ydych chi'n atgyfeirio eich hun ar gyfer gofal mamolaeth:

  1. Cwblhewch y ffurflen cofrestru yn y linc isod
  2. Byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau bod eich ffurflen wedi'i derbyn yn ddiogel.
  3. O fewn 1-2 wythnos, bydd bydwraig gymunedol yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad.

ATGYFEIRIADAU BYDWRAIG

 

Ydych chi’n profi unrhyw gymhlethdodau beichiogrwydd cynnar fel poen neu waedu?

Ydych chi erioed wedi profi unrhyw gymhlethdodau beichiogrwydd cynnar?

Os felly, oeddech chi’n gwybod y gallwch chi hunan-atgyfeirio at yr uned beichiogrwydd cynnar CTM a thrafod eich Pryderon gyda’n nyrs gynaecoleg?

Ysbyty Tywysog Siarl

  • 01685 728894
  • Llun i Wener: 8:30am - 4:30pm

Ysbyty Brenhinol Morgannwg

  • 01443 443230
  • Llun i Wener: 8:30am – 4:30pm

Ysbyty Tywysoges Cymru

  • 01656 754030
  • Llun i Wener: 8:30am – 4:30pm

Rydym yn argymell eich bod yn mynychu Ysbyty Tywysoges Cymru os Ydych chi’n profi unrhyw symptomau difrifol o boen neu waedu.