Asthma

Os ydych wedi cael diagnosis o asthma, byddwch yn cael eich gwahodd am adolygiad blynyddol gyda Nyrs y Feddygfa. Yn ystod yr adolygiadau hyn, bydd Nyrs y Feddygfa yn trafod eich rheolaeth asthma, yn gwirio eich techneg anadlu ac yn gwneud y gorau o'ch triniaeth.  Bydd yr apwyntiad hwn yn cymryd 20 munud fel arfre.

Pan fydd disgwyl i chi gael eich adolygiad, gallech gwblhau adolygiad ar-lein drwy ddefnyddio y ffurflen isod cyn eich apwyntiad. Gallwch hefyd wirio eich techneg anadlu drwy ddefnyddio'r fideos yma

Rydym yn annog cleifion sydd ag asthma i gael cynllun gweithredu asthma ysgrifenedig gan fod hyn yn eich gwneud bedair gwaith yn llai tebygol o gael eich derbyn i'r ysbyty oherwydd eich asthma. Gallwch lawrlwytho'r cynlluniau gweithredu isod a gall Nyrs y Feddygfa eich helpu i lenwi hyn.

image depicting asthma

 

ADOLYGIAD ASTHMA

 

Oedolion

 

Plant

 

Mae cynaliadwyedd mewn gofal iechyd yn flaenoriaeth bwysig iawn ac ym Mron-y-Garn rydym yn edrych ar ffyrdd y gallwn helpu i wella'r amgylchedd. Mae ailgylchu eich anadlwyr drwy fynd â nhw i'n fferyllfeydd lleol sy'n cefnogi'r prosiect Cwblhau'r Cylch yn newid hawdd iawn i'w wneud. Mae cyfran fawr o ôl troed carbon y GIG yn deillio o fath penodol o anadlydd, yr Anadledd Dos Wedi'i Fesur . Gall newid y math hwn o anadlydd, lle y bo'n briodol, i Anadlydd Powdr Sych fod o fudd mawr i'r amgylchedd. 

GWYBODAETH AM ANADLYDDION GWYRDD