Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg - Safonau Mynediad

Isod ceir y safonau mynediad a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Mawrth 2019.

Safonau Mynediad 2019

Cyhoeddwyd set newydd o safonau gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Mawrth 2019 gyda'r nod o godi a gwella lefel y gwasanaeth i gleifion yng Nghymru o'u meddygfeydd teulu.

Nodir y safonau hyn isod:

  • Cleifion: byddant yn derbyn ymateb prydlon i'w cyswllt â meddygfa teulu dros y ffôn.
  • Meddygfeydd: bydd ganddynt y systemau teleffoni priodol ar waith i gefnogi anghenion pobl gan osgoi'r angen i alw'n ôl sawl gwaith a byddant yn gwirio eu bod yn ymdrin â galwadau fel hyn.
  • Cleifion: byddant yn derbyn gwybodaeth ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg) am wasanaethau lleol ac argyfwng wrth gysylltu â meddygfa.
  • Cleifion: gallant ddefnyddio amrywiaeth o opsiynau i gysylltu â'u meddygfa teulu i wneud apwyntiad.
  • Cleifion: gallant e-bostio meddygfa i ofyn am ymgynghoriad nad yw'n fater brys neu alwad yn ôl.
  • Cleifion: byddant yn derbyn y gofal cywir ar yr adeg gywir mewn ffordd gydgysylltiedig sy'n seiliedig ar eu hanghenion. 
  • Meddygfeydd: byddant yn deall anghenion eu cleifion a defnyddio'r wybodaeth hon i ragweld y galw ar eu gwasanaethau.

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cefnogi eich meddygfa teulu i sicrhau y cyflawnir y safonau hyn erbyn mis Mawrth 2021