Casglu Data Iechyd a'r Arsyllfa Iechyd

Mae'r staff yn y feddygfa hon yn cadw cofnodion ohonoch chi a'ch data er mwyn caniatáu i ni roi'r gofal a'r driniaeth gywir i chi. Mae angen i ni gofnodi'r wybodaeth yma, ynghyd â manylion y gofal yr ydych yn ei dderbyn, fel bo modd i ni ei adalw pan fyddwn yn eich gweld chi.

Efallai bydd y wybodaeth a gofnodir yn cael ei defnyddio am resymau eraill heblaw am ofal personol hefyd, er enghraifft, i helpu i amddiffyn iechyd y cyhoedd, i gynllunio ar gyfer y dyfodol, i hyfforddi staff, neu i gynnal gwaith ymchwil neu astudiaethau meddygol eraill.

O ganlyniad, rydym ni'n rhan o arsyllfa iechyd sydd wedi'i seilio ar wybodaeth ddienw am gleifion. Mae'r prosesau anonymeiddio a'r mesurau diogelwch rhesymol sydd ar waith yn cydymffurfio â'r rheoliadau diogelu data perthnasol. Os hoffech chi optio allan o'r cynllun casglu data hwn, dywedwch wrth eich meddyg ac ni wnawn gasglu eich cofnodion ar gyfer yr Arsyllfa. Ni fydd hyn yn cael unrhyw effaith ar eich gofal.

Os bydd yr Arsyllfa neu waith ymchwil cysylltiedig yn gofyn am wybodaeth ychwanegol amdanoch, bydd eich meddyg teulu yn cysylltu â chi i weld a ydych yn fodlon cymryd rhan; ni fydd modd eich adnabod yn unrhyw ganlyniadau a gyhoeddir.

Mae gennych hawl i gael mynediad at eich cofnodion iechyd. Os hoffech wybod mwy unrhyw bryd, neu os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â'n defnydd o'ch gwybodaeth, holwch y dderbynfa am ragor o fanylion.

Mae rhestr o'r ymchwil cyhoeddedig  sy'n defnyddio’r bas data THIN ar gael ar gais.
Os gwelwch yn dda, cysylltwch â Michelle Page ar y rhif ffôn 020 7501 7540 
neu e-bostiwch info@the-health-improvement-network.co.uk i dderbyn copi.

Mae dyletswydd gyfreithiol ar bawb sy'n gweithio i'r GIG neu gyda'r GIG i gadw gwybodaeth amdanoch chi'n gyfrinachol