Meddygfa Bron-y-Garn
Oriau Agor | Fy Iechyd Ar-lein | Cysylltu â ni | | |
Got any questions? I'm happy to help
Hysbysiad Preifatrwydd
Sut mae Meddygfa Bron-y-Garn yn defnyddio eich gwybodaeth i ddarparu gofal iechyd i chi
Mae'r feddygfa hon yn sicrhau bod cofnodion meddygol yn gyfrinachol ac yn cydymffurfio â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).
Rydym yn cadw eich cofnod meddygol er mwyn gallu darparu gofal a thriniaeth ddiogel i chi.
Rydym hefyd yn defnyddio eich gwybodaeth er mwyn galluogi'r feddygfa wirio ac arolygu safon y gofal yr ydym yn ei ddarparu. Mae hyn yn ein helpu i wella ein gwasanaethau i chi.
- Byddwn yn rhannu gwybodaeth berthnasol o'ch cofnod meddygol gyda staff neu sefydliadau iechyd neu ofal cymdeithasol eraill pan fyddent yn darparu gofal i chi. Er enghraifft, bydd eich meddyg teulu yn rhannu gwybodaeth pan fyddent yn eich cyfeirio at arbenigwr mewn ysbyty, neu bydd eich meddyg yn danfon gwybodaeth am eich presgripsiwn i'ch fferyllfa ddewisol.
- Bydd gan staff gofal iechyd sy'n gweithio ym meysydd damweiniau ac achosion brys a gofal y tu allan i oriau arferol fynediad at eich gwybodaeth hefyd. Er enghraifft, mae'n bwysig fod y staff sy'n eich trin yn ystod achos brys yn gwybod a oes gennych unrhyw alergeddau. Bydd hyn yn golygu defnyddio eich Cofnod Meddygol Unigol. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Iechyd yng Nghymru neu trafodwch y mater â'r feddygfa.
- Mae gennych hawl i wrthwynebu rhannu gwybodaeth er mwyn eich gofal. Os gwelwch yn dda, siaradwch â'r feddygfa os ydych yn dymuno gwrthwynebu. Mae hawl gennych hefyd i gywiro unrhyw gamgymeriadau neu wallau.
Rhagor o wybodaeth bwysig ynglŷn â'r defnydd o'ch gwybodaeth er mwyn darparu gofal iechyd i chi
Cofrestru ar gyfer Gofal GIG
- Mae pawb sy'n derbyn gofal gan y GIG yn cael eu cofrestru ar fas data cenedlaethol.
- Mae'r bas data yn cynnwys eich enw, eich cyfeiriad, eich dyddiad geni a'ch rhif GIG, ond nid yw'n cynnwys gwybodaeth am y gofal yr ydych chi'n ei dderbyn.
- Gwasanaethau Gwybodaeth GIG Cymru sy'n cynnal y bas data, sefydliad cenedlaethol sydd â dyletswydd gyfreithiol i gasglu data GIG.
- Gellir cael rhagor o wybodaeth yma.
Adnabod cleifion a allai fod dan fygythiad oddi wrth afiechydon penodol
- Bydd rhaglen gyfrifiadurol yn chwilio eich cofnodion meddygol er mwyn adnabod cleifion a allai fod dan fygythiad oddi wrth afiechydon penodol megis clefyd y galon neu ymweliadau dirybudd i'r ysbyty.
- Mae hyn yn golygu y gallwn gynnig gofal neu gefnogaeth ychwanegol i'n cleifion cyn gynted ag sy'n bosibl.
- Mae'r broses yn ymwneud â chysylltu gwybodaeth o'ch cofnod meddyg teulu â gwybodaeth gan wasanaethau gofal iechyd neu ofal cymdeithasol eraill yr ydych wedi'u defnyddio.
- Dim ond y feddygfa hon all weld gwybodaeth sy'n dangos pwy ydych chi.
Diogelu
- Weithiau, bydd angen i ni rannu gwybodaeth i sicrhau fod eraill, gan gynnwys staff gofal iechyd, plant, neu eraill sydd ag anghenion diogelu, yn cael eu diogelu rhag niwed.
- Prin yw'r amgylchiadau sy'n gwneud hyn yn ofynnol.
- Ni fyddwn angen eich caniatad na'ch cydsyniad i wneud hyn.
Mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ni ddarparu'r wybodaeth ganlynol ynglŷn â'n dulliau o drin eich gwybodaeth.
Manylion cyswllt Rheolwr y Data |
Meddygfa Bron-y-Garn Meddygfa Bron-y-Garn, Ysbyty Cymunedol Maesteg, Maesteg, CF34 9PW |
Manylion cyswllt y Swyddog Diogelu Data |
Rheolwr y Practis (yr Arweinydd Llywodraethu Gwybodaeth presennol, nes y caiff manylion Swyddog Diogelu Data (DPO) eu cadarnhau) |
Diben y prosesu |
|
Y sail gyfreithiol dros brosesu |
Cefnogir y dibenion hyn dan yr adrannau canlynol o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR): Erthygl 6(1)(e) ‘…yn angenrheidiol er mwyn perfformio tasg a gynhelir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol...'; ac Erthygl 9(2)(h) 'yn angenrheidiol er dibenion meddygaeth alwedigaethol neu ataliol ar gyfer asesu gallu'r cyflogai i weithio, ar gyfer diagnosis meddygol, ar gyfer darparu gofal iechyd neu ofal cymdeithasol neu driniaeth, neu i reoli systemau a gwasanaethau gofal iechyd a gofal cymdeithasol...' Bydd staff gofal iechyd hefyd yn parchu ac yn cydymffurfio â'u goblygiadau dan ddyletswydd cyfrinachedd y gyffraith gyffredin. |
Derbynnydd neu gategorïau o dderbynyddion y data wedi'i brosesu |
Bydd y data yn cael ei rannu â:
|
Hawl i wrthwynebu
|
|
Hawl i gael mynediad ac i gywiro |
|
Cyfnod Cadw |
Bydd cofnodion meddygol meddygon teulu yn cael eu cadw yn unol â'r gyfraith a chanllawiau cenedlaethol. Gellir canfod gwybodaeth am faint o amser y cedwir cofnodion ar Wefan NHS Digital |
Hawl i gwyno |
Mae gennych hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Os ydych yn dymuno cwyno, dilynwch y ddolen hon i wefan yr ICO neu galwch y llinell gymorth 0303 123 1113 |
Y Data a gawn oddi wrth sefydliadau eraill |
Rydym yn derbyn gwybodaeth am eich iechyd gan sefydliadau eraill sy'n ymwneud â darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol i chi. Er enghraifft, os ydych chi'n mynd i'r ysbyty i dderbyn triniaeth bydd yr ysbyty yn danfon llythyr atom i ddweud beth sy'n digwydd. Mae hyn yn golygu bod eich cofnod meddygol meddyg teulu yn cael ei ddiweddaru pan fyddwch yn derbyn gofal gan adrannau eraill o'r gwasanaeth iechyd. |
Pe hoffech gopi papur o'r hysbysiad preifatrwydd hwn, os gwelwch yn dda gwnewch gais am un gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein ddiogel
Rydym yn defnyddio cwcis i helpu i ddarparu'r profiad ar-lein gorau i chi. Drwy ddefnyddio'r safle hon, rydych yn cytuno y gallem storio a chyrchu cwcis ar eich dyfais. Polisi cwcis. Gosodiadau cwcis.
Cwcis Swyddogaethol
Mae Cwcis Swyddogaethol wedi'u galluogi yn ddiofyn bob amser fel y gallwn arbed eich dewisiadau ar gyfer gosodiadau cwcis a sicrhau bod y wefan yn gweithio ac yn darparu'r profiad gorau.
Cwcis Trydydd Parti
Mae'r wefan yn defnyddio Google Analytics i gasglu gwybodaeth anhysbys megis nifer yr ymwelwyr sy'n ymweld â'r safle, a'r tudalennau mwyaf poblogaidd. Mae cadw'r cwci hwn wedi'i alluogi yn ein helpu i wella ein gwefan.