Hysbysiad Prosesu Teg

Menter Cofrestru Dyblyg Genedlaethol 2009/10

Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i'r GIG ddiogelu'r arian cyhoeddus y mae'n ei weinyddu. Wrth wneud hynny, gall rannu gwybodaeth a ddarperir iddo gyda chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus.

Mae paru data yn golygu cymharu cofnodion cyfrifiadurol a gedwir gan un corff yn erbyn cofnodion cyfrifiadurol eraill a gedwir gan yr un corff neu gorff arall i weld sut maent yn cyfateb.  Mae hyn fel arfer yn golygu cael mynediad at wybodaeth bersonol.  Mae'r math hwn o baru data cyfrifiadurol yn helpu i nodi trafodion neu eitemau data a allai awgrymu anghysondeb ac felly elwa o ymchwiliad pellach. Gall unrhyw anghysondebau gwirioneddol a nodwyd wrth ymchwilio fod yn ganlyniad i dwyll, camgymeriad neu esboniad arall.

Ar hyn o bryd, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru (Yr Archwilydd Cyffredinol) yn ei gwneud yn ofynnol i ni gymryd rhan mewn ymarfer paru data er mwyn helpu i nodi cofrestriadau cleifion dyblyg mewn meddygfeydd teulu. Caiff y defnydd o'r data gan yr Archwilydd Cyffredinol ei wneud gydag awdurdod statudol o dan Ran 3 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru). Felly, mae gan Fyrddau Iechyd Lleol ddyletswydd statudol i ddarparu'r data perthnasol o dan baragraff 17 o Atodlen 8 Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Nid oes angen cydsyniad unigolion dan sylw o dan Ddeddf Diogelu Data 1998.

Bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn gweithio gyda'r Archwilydd Cyffredinol a'i staff er mwyn sicrhau mai dim ond yr isafswm angenrheidiol o wybodaeth bersonol a gaiff ei rannu at ddibenion yr archwiliad hwn. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei throsglwyddo i'r Archwilydd Cyffredinol mewn fformat wedi'i hamgryptio a'i storio'n ddiogel cyn cael ei gwaredu'n gyfrinachol ar ddiwedd yr archwiliad. Cynhelir yr ymarfer yn unol â Chod Ymarfer Paru Data'r Archwilydd Cyffredinol.