Iechyd yn y Gaeaf

Mae cartrefi oer yn cael effaith sylweddol ar iechyd pobl. Un o'r ffyrdd gorau o gadw'ch hun yn iach yn ystod y gaeaf yw cadw'n gynnes.

Gall cadw'n gynnes yn ystod misoedd y gaeaf helpu i atal annwyd, ffliw neu gyflyrau iechyd mwy difrifol fel trawiadau ar y galon, strôc, niwmonia ac iselder.

Mae'r siawns o gael y problemau hyn yn uwch os ydych chi'n agored i afiechydon sy'n gysylltiedig ag oerfel oherwydd un neu fwy o'r canlynol:

  • rydych dros 65
  • rydych ar gyflog isel (felly ddim yn gallu fforddio gwres)
  • mae gennych gyflwr iechyd hirdymor fel celfyd y galon, yr ysgyfaint neu'r iau
  • rydych yn anabl

image depicting winter health

 

Mae'r ffliw'n salwch heintus iawn sy'n gallu lledaenu'n gyflym. Os ydych mewn perygl o gael cymhlethdodau o ganlyniad i'r ffliw, efallai bod gennych hawl  i gael pigiad ffliw yn rhad ac am ddim.

DYSGWCH FWY AM BIGIADAU FFLIW

 

Sut i gadw'n gynnes

Nod cyngor y llywodraeth ar sut i baratoi ar gyfer y gaeaf yw lleihau salwch a marwolaethau sy'n gysylltiedig ag oerfel. Dyma rai cynghorion da:

  • Cadwch eich cartref yn gynnes. Dylai eich prif ystafell fyw fod rhwng tua 18-21C (65-70F) a gweddill y tŷ fod o leiaf 16C (61F). Gallwch hefyd ddefnyddio potel ddŵr poeth neu flanced trydan (ond nid y ddau ar yr un pryd) i gadw'n gynnes yn y gwely.
  • Mae bwyd yn ffynhonnell hanfodol o ynni, sy'n helpu i gadw'ch corff yn gynnes. Ceisiwch wneud yn siŵr eich bod yn cael prydau a diodydd poeth yn rheolaidd drwy gydol y dydd a chadwch yn heini yn y cartref os gallwch chi.
  • Gwisgwch yn gynnes, y tu mewn a'r tu allan. Gwisgwch haenau o ddillad i gadw'n gynnes ac esgidiau sydd â gafael da os y bydd angen i chi fynd allan. Os yw'n bosibl, arhoswch i mewn yn ystod cyfnod oer os oes gennych broblemau anadlu neu gyda'r galon.
  • Cadwch mewn cysylltiad â chymdogion neu berthnasau hŷn er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn iach. Gwnewch yn siŵr eu bod yn ddigon cynnes, yn enwedig yn y nos, a bod ganddyn nhw ddigon o fwyd a meddyginiaethau fel na fydd rhaid iddyn nhw fynd allan yn ystod tywydd oer iawn. Os ydych yn poeni am berthynas neu gymydog oedrannus, cysylltwch â'ch cyngor lleol neu ffoniwch linell gymorth Age UK ar 0800 00 99 66.
 

Budd-daliadau tywydd oer

Efallai y byddwch yn gallu hawlio cymorth ariannol neu ymarferol gyda gwresogi eich cartref. Mae grantiau sydd ar gael yn cynnwys Taliadau Tanwydd Gaeaf a Thaliadau Tywydd Oer.

Mae Taliadau Tanwydd Gaeaf o hyd at £300 ar gael os cawsoch eich geni ar neu cyn 5 Gorffennaf 1951.

I gael mwy o wybodaeth am Daliadau Tanwydd Gaeaf, ffoniwch 0845 915 1151 (8.30am-4.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, neges destun at 0845 601 5613) neu ewch i Taliad Tanwydd Gaeaf

Efallai y bydd Taliadau Tywydd Oer ar gael i chi os ydych yn derbyn budd-daliadau penodol neu â phlentyn sy'n anabl neu o dan bump oed.

I ddysgu mwy am Daliadau Tywydd Oer, cysylltwch â'r Ganolfan Byd Gwaith (gallwch ddod o hyd i'r swyddfa agosaf yn y llyfr ffôn) neu ewch i Taliad Tywydd Oer

Mae gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni (EST) gyngor ar sut i leihau biliau a sut i wneud eich cartref yn fwy cynaliadwy. Gallan nhw hefyd roi cyngor ar grantiau a chynlluniau sydd ar gael ledled y DU. Dysgwch fwy ar-lein ar wefan yr EST neu ffoniwch 0300 123 1234 (9am-8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a 10am-2pm ddydd Sadwrn)

Am fwy o wybodaeth ar fudd-daliadau tywydd oer ac unrhyw gymorth arall sydd ar gael, darllenwch yr adran 'Cymorth ariannol i helpu i wresogi eich cartref' yn y daflen Keep Warm, Keep Well.