Cyfrifiannell BMI 

Defnyddiwch y gyfrifiannell BMI i ddarganfod a yw eich pwysau chi neu bwysau eich plentyn yn iach.

Gall mynegai màs y corff (Body Mass Index) sy'n uwch na'r ystod pwysau iach neu ormod o fraster o amgylch eich canol gynyddu eich risg o broblemau iechyd difrifol, fel clefyd y galon, diabetes math 2, strôc a chanserau penodol.

 
 

Esbonio eich BMI

O dan bwysau

Mae bod dan bwysau yn gallu bod yn arwydd nad ydych chi'n bwyta digon neu y gallech fod yn sâl. Os ydych dan bwysau, gall eich meddyg teulu eich helpu. Dysgwch fwy yn oedolion dan bwysau.

 

Pwysau iach

Parhewch â'r gwaith da. Am gynghorion da ar sut i gadw pwysau iach, edrychwch ar ein hadrannau bwyd a diod ffitrwydd

 

Dros bwysau

Y ffordd orau o golli pwysau yw trwy gyfuniad o ddiet ac ymarfer corff. Bydd y gyfrifiannell BMI yn rhoi lwfans calorïau personol i chi i'ch helpu i gyflawni pwysau iach yn ddiogel.

 

Gordew

Y ffordd orau o golli pwysau yw trwy gyfuniad o ddiet ac ymarfer corff ac, mewn rhai achosion, meddyginiaeth. Cysylltwch â'ch Meddyg Teulu am help a chyngor.

 

Ethnigrwydd a risg diabetes

Mae gan grwpiau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eraill (BME) risg uwch o ddatblygu rhai cyflyrau cronig, megis diabetes math 2.

Mae oedolion BME sydd â 

  • BMI o 23 neu fwy mewn mwy o berygl
  • BMI o 27.5 neu fwy mewn perygl mawr
 

Pam mae maint y canol yn bwysig

Mae mesur eich canol yn ffordd dda o wirio nad ydych yn cario gormod o fraster o amgylch eich stumog, sy'n gallu cynyddu eich risg o glefyd y galon, diabetes math 2 a strôc.

Gallwch fod â BMI iach a gormod o fraster bol – sy'n golygu eich bod yn dal mewn perygl o ddatblygu'r clefydau hyn.

 

Wrth fesur eich canol:

  1. rhaid dod o hyd i waelod eich asennau a thop eich cluniau
  2. lapio tâp mesur o amgylch eich canol hanner ffordd rhwng y pwyntiau hyn
  3. anadlu allan yn naturiol cyn cymryd y mesuriad

Beth bynnag fo'ch taldra neu BMI, dylech geisio colli pwysau os yw eich canol yn:

  • 94cm (37 modfedd) neu'n fwy (dynion)
  • 80cm (31.5 modfedd) neu'n fwy (merched)

Rydych mewn perygl mawr iawn a dylech gysylltu â'ch meddyg teulu os yw eich canol yn:

  • 102cm (40 modfedd) neu'n fwy (dynion)
  • 88cm (34 modfedd) neu'n fwy (merched)
 

BMI plant

Ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng dwy ac 18 oed, mae'r gyfrifiannell BMI yn ystyried oedran a rhywedd yn ogystal â thaldra a phwysau.

Credir bod plant gordew mewn mwy o berygl o amrywiaeth o gyflyrau iechyd, ac maen hefyd yn fwy tebygol o fod dros bwysau neu'n ordew fel oedolion.

Mae'r gyfrifiannell BMI yn gweithio allan os yw plentyn neu berson ifanc:

  • dan bwysau: ar yr ail ganradd neu'n is. Os ydych chi'n poeni am bwysau eich plentyn, ewch i weld eich meddyg teulu. Dysgwch fwy yn plant dan bwysau
  • pwysau iach: rhwng yr ail ganradd a chanradd 91
  • dros bwysau: canradd 91 neu'n uwch.  Dyma gynghorion ar sut i annog eich plentyn i fod yn fwy egnïol a bwyta'n well
  • gordew: canradd 98 neu'n uwch. Os ydych chi'n poeni am bwysau eich plentyn, ewch i weld eich meddyg teulu. Dysgwch fwy yn plant gordew

Mynegir BMI plentyn fel "canradd" i ddangos sut mae eu BMI yn cymharu â phlant a gymerodd ran mewn arolygon cenedlaethol. Er enghraifft, mae merch ar y 75fed canradd yn drymach na 75 allan o 100 o ferched eraill ei hoedran.

Nid yw mesur maint y canol yn cael ei gynghori fel mater o drefn ar gyfer plant gan nad yw'n ystyried eu taldra.

Os ydych chi'n poeni am bwysau eich plentyn, cysylltwch â'ch meddyg teulu a allai eich cyfeirio at eich rhaglen ffordd o fyw iach leol ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd.

 

Cyfyngiadau'r BMI

Gall eich BMI ddweud wrthych a ydych yn cario gormod o bwysau ond ni all ddweud a ydych yn cario gormod o fraster. Ni all y BMI ddweud y gwahaniaeth rhwng gormod o fraster, cyhyrau neu asgwrn.

Nid yw BMI oedolion yn ystyried oedran, rhyw na màs cyhyrau. Mae hyn yn golygu: 

  • y gall oedolion ac athletwyr cyhyrog iawn gael eu dosbarthu'n "rhy drwm" neu'n "ordew" er bod braster eu corff yn isel   
  • y gall oedolion sy'n colli cyhyrau wrth iddynt fynd yn hŷn ddisgyn yn yr ystod "pwysau iach" er y gallant fod yn cario gormod o fraster

Fodd bynnag, mae'r BMI yn ddull cymharol syml a chyfleus o asesu pwysau rhywun. 

Gallwch ddefnyddio eich canlyniad BMI fel man cychwyn ar gyfer trafodaeth bellach gyda'ch meddyg teulu am eich pwysau a'ch iechyd cyffredinol.

Dysgwch fwy yn Sut all eich Meddyg Teulu helpu ac edrychwch ar wefan Change4Life am gynghorion ymarferol ar gadw'n iach fel teulu.

Os ydych yn dioddef o anhwylder bwyta, nid yw canlyniadau'r gyfrifiannell BMI yn berthnasol. Gofynnwch am gyngor pellach gan eich meddyg teulu.