Mewn profedigaeth (Disgwyliedig / Annisgwyl / Hunanladdiad)

Pan fo rhywun yn marw, mae tri pheth y dylid eu gwneud o fewn y dyddiau cyntaf;

  • Derbyn tystysgrif marwolaeth gan eich meddyg teulu neu ddoctor ysbyty (mae angen un o'r rhain er mwyn cofrestru'r farwolaeth)
  • Cofrestru'r farwolaeth o fewn 5 diwrnod (8 diwrnod yn yr Alban). Yna byddwch yn derbyn y dogfennau sydd eu hangen ar gyfer yr angladd.
  • Gwneud paratoadau ar gyfer yr angladd.

image depicting bereavement

 

Cofrestru'r farwolaeth

Os hysbyswyd y crwner o'r farwolaeth (neu'r Procurator Fiscal yn yr Alban) mae'n rhaid iddynt roi eu caniatâd cyn y gellir cofrestru'r farwolaeth.

Gallwch gofrestru'r farwolaeth os ydych chi'n perthyn i'r ymadawedig, os oeddech chi'n dyst i'r farwolaeth, os ydych chi'n weinyddydd ysbyty, neu os mai chi sy'n gwneud y trefniadau gyda'r trefnydd angladdau.  

Gallwch ddefnyddio'r dudalen ‘Cofrestru Marwolaeth’ ar wefan gov.uk a bydd yn eich tywys trwy'r broses. Bydd hefyd yn egluro'r broses gofrestru ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon. 

 

Trefnu'r angladd

Fel arfer, bydd rhaid cofrestru'r farwolaeth cyn y gellir cynnal angladd. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn defnyddio trefnydd angladdau, er y gallwch ei drefnu eich hunain. 

 

image depicting bereavement

Trefnwyr Angladdau

Dewiswch drefnydd angladdau sy'n aelod o un o'r canlynol:

Mae gan y sefydliadau hyn godau ymarfer - rhaid iddynt gyflwyno rhestr brisiau os gofynnir am un.

Mae rhai cynghorau lleol yn cynnal eu gwasanaethau angladdau eu hunain, ar gyfer angladdau anghrefyddol er enghraifft. Gall y Cymdeithas Dyneiddwyr Prydain helpu ag angladdau anghrefyddol hefyd. 

 

Trefnu'r angladd eich hunain

Cysylltwch ag Adran Mynwentau ac Amlosgfeydd eich cyngor lleol er mwyn trefnu'r angladd eich hunain. 

 

Costau angladd

Gall costau angladd gynnwys:

  • ffioedd y trefnydd angladdau
  • pethau y mae'r trefnydd angladdau yn eu talu ar eich rhan (a elwir yn 'alldaliadau' neu 'gostau trydydd parti'), ffioedd yr amlosga neu'r fynwent neu ar gyfer hysbysiad am y farwolaeth mewn papur newydd er enghraifft
  • ffioedd claddedigaeth neu amlosgi'r awdurdod lleol

Gallai'r trefnydd angladdau restru'r holl gostau hyn yn eu dyfynbris. 

Am gyngor annibynnol, rhad ac am ddim ar faterion profedigaeth, gallwch gael rhagor o wybodaeth trwy fynd i lastingpost.com.

 

Sefydliadau a allai fod o gymorth

Sefydliad Gwefan Ffôn
CALM - Campaign against Living Miserably Elusen gofrestredig ar gyfer atal hunanladdiad ymhlith dynion 0800 58 58 58
Papyrus Elusen genedlaethol ar gyfer atal hunanladdiad ymhlith yr ifanc 0800 068 4141
Samaritans yng Nghymru Elusen gofrestredig sydd â changhennau lleol. Ar gael i helpu unrhyw un, unrhyw bryd 116 123 (rhif am ddim)
Survivors of bereavement by suicide Elusen genedlaethol a sefydlwyd i ddiwallu anghenion ac atal y teimlad o arwahaniad  ymhlith rhai sydd wedi colli rhywun trwy hunanladdiad  0300 111 5065
Help at Hand Cymru

Beth i'w wneud nesaf pan fyddwch yn colli rhywun trwy farwolaeth annisgwyl neu hunanladdiad? 

 
City Hospice

Mae City Hospice yn elusen sy'n cynnig cefnogaeth am ddim i bobl sy'n byw yn siroedd Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf sydd wedi cael profedigaeth. Mae'r gwasanaeth ar gael o Ddydd Llun hyd Ddydd Gwener.

02922 671 422
city.hospice@wales.nhs.uk