Silvercloud

Bellach, gall miloedd o bobl ledled Cymru gyfan gael mynediad at therapi ar-lein rhad am ddim gan y GIG heb orfod mynd trwy eu meddyg teulu

Gall pobl 16 oed neu hŷn sy'n teimlo lefelau isel neu gymedrol o orbryder, iselder, neu straen gofrestru ar gyfer cwrs therapi ar-lein 12-wythnos gan ddefnyddio eu ffôn clyfar, tabled, gliniadur, neu gyfrifiadur.

Trwy gyflwyno mynediad uniongyrchol at therapi ar-lein i holl boblogaeth 16+ Cymru cydnabyddir bod pobl angen cymorth brys i reoli eu hiechyd meddwl a'u lles yn wyneb effaith COVID-19, ac mae'n ei gwneud yn haws iddynt gael gafael ar y cymorth hwn.

SilverCloud yw enw'r gwasanaeth therapi ac mae'n defnyddio dulliau profedig megis therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT), sy'n helpu pobl i reoli eu problemau trwy eu hannog i newid y ffordd y maent yn meddwl ac yn ymddwyn.

Gall defnyddwyr ddewis un o 17 rhaglen iechyd meddwl a lles ar-lein i'w gwblhau  yn eu hamser eu hunain dros gyfnod o 12 wythnos. Mae'r opsiynau o ran y rhaglen yn cynnwys cymorth â gorbryder, iselder, straen, cwsg, a phryderon ariannol.

Mae pob rhaglen yn cynnwys gweithgareddau ac offer rhyngweithiol sy'n helpu'r defnyddwyr ddatblygu sgiliau i reoli eu lles seicolegol â mwy o hyder.

Er mai gwasanaeth hunangymorth ar-lein ydyw, caiff ei gefnogi a'i atgyfnerthu gan dîm o seicolegwyr a chydlynwyr therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein.

Mae'r 'Cefnogwyr SilverCloud' hyn yn tywys defnyddwyr trwy'r rhaglen trwy fonitro cynnydd, danfon negeseuon, ac ychwanegu argymhellion personol pan fo angen.

Mae un o bob pedwar oedolyn eisoes yn cael trafferth â'u hiechyd meddwl, a rhagwelir y bydd y galw am wasanaethau iechyd meddwl yn cynyddu o ganlyniad i effaith COVID-19.

Mae therapi ar-lein SilverCloud eisoes yn cael ei ddefnyddio ym Mhowys, ac yn ystod y cyfnod clo gwelwyd cynnydd o dros 100% yn y defnydd o'r gwasanaeth hunanatgyfeirio sy'n caniatáu pobl i gofrestru yn uniongyrchol heb orfod ymweld â'u meddyg teulu.

Bu Fionnuala Clayton, Cynorthwyydd Seicolegol a Chydlynydd CBT Ar-lein Clinigol SilverCloud Cymru, yn helpu i ddatblygu'r gwasanaeth atgyfeirio.

Dywedodd: "Mae hi mor bwysig ein bod ni'n penodi amser i ofalu am ein lles, ond gall fod yn anodd iawn gwneud hynny, yn enwedig os ydych chi'n astudio, yn gweithio, os ydych yn rhiant neu â chyfrifoldebau gofal am berthnasau.

"Un o brif fanteision defnyddio SilverCloud yw ei fod yn cynnig mynediad uniongyrchol at gefnogaeth iechyd meddwl a lles ar-lein, unrhyw bryd, o'ch cartref eich hun, heb fod angen mynd trwy eich meddyg teulu.

"Mae hyn yn bwysig gan ein bod ni gyd yn ymwybodol o'r pwysau sydd ar wasanaethau meddyg teulu trwy Gymru gyfan, yn enwedig yn ystod y pandemig COVID-19. Hefyd, gall fod yn anodd dod i apwyntiad iechyd meddwl a lles sydd rhwng 9 a 5 o ddydd Llun i ddydd Gwener. 

"Gall gwasanaeth therapi ar-lein SilverCloud fod o fudd i gleifion mewn ardaloedd gwledig hefyd, lle gall y dirwedd ei gwneud yn anodd i gael mynediad at wasanaethau iechyd.

" Mae SilverCloud yn cynnig hyblygrwydd mawr o ran yr amser a dreulir yn ei ddefnyddio, a hynny oherwydd y gall defnyddwyr fewngofnodi a chwblhau'r modiwlau a benodir iddynt, sy'n ddibynnol ar eu rhaglen ddewisol, mewn ffordd sy'n cyd-fynd ac yn gweddu â'u bywydau.

"Mae CBT a CBT cyfrifiadurol yn arfer sydd wedi'i seilio ar dystiolaeth, ac y mae wedi'i brofi i helpu gyda phrofiadau o orbryder ac iselder. Gan fod SilverCloud wedi'i seilio ar ymyriadau CBT, gall defnyddwyr ganolbwyntio ar broblemau'r presennol, ac mae'n cynnig dulliau ymarferol er mwyn mynd i'r afael â phroblemau a allai fygwth eich llethu, a hynny trwy drafod y berthynas rhwng ein meddyliau, ein hemosiynau, ein teimladau corfforol, a'n hymddygiadau.

"Rwy'n rhyngweithio â defnyddiwr ar y we, gan eu cefnogi a'u helpu i gael y gorau o'r offer a'r gweithgareddau sydd ar gael yn ogystal â chynnig cefnogaeth weinyddol i unrhyw un sydd ychydig yn ansicr wrth ddefnyddio therapi ar-lein SilverCloud - mae’n brofiad newydd sbon i lawer o bobl!

"Mae'n rhoi boddhad mawr i mi pan fyddwn yn meithrin perthynas gadarnhaol â rhywun sy'n derbyn ein cefnogaeth oherwydd, yn y pen draw, rydym i gyd yn ceisio cyflawni'r un peth - gwella eu hiechyd meddwl a'u lles.

“Ac er mai gwasanaeth ar-lein ydyw, nid yw wedi'i anelu at bobl ifanc yn unig. Mae pobl o bob oed wedi defnyddio therapi ar-lein SilverCloud. Ein nod ni yw creu gofod diogel ar y we lle gall pobl drin a thrafod eu heriau personol."

COFRESTRU AR GYFER SILVERCLOUD