#helofyenwiyw

  • Mae #helofyenwiyw, neu #hellomynameis  yn ymgyrch i annog ac atgoffa staff gofal iechyd o bwysigrwydd cyflwyno eich hunain ym maes gofal iechyd, gan ein helpu ni i ddarparu gofal tosturiol sydd wir yn canolbwyntio ar y person. Dyma un o'r gwerthoedd 'cyfrifoldeb' yr ydym ni'n eu cynnal yn y feddygfa.
  • Dechreuwyd  #helofyenwiyw gan Dr Kate Granger MBE. Roedd Kate yn feddyg, ond roedd hefyd yn glaf â chanser angheuol, ac yn ystod ei thriniaeth sylwodd na wnaeth llawer o'r staff a oedd yn gofalu amdani gyflwyno'u hunain. Aeth ati i ddechrau ymgyrch - ar y cyfryngau cymdeithasol i ddechrau - er mwyn annog ac atgoffa staff gofal iechyd o bwysigrwydd cyflwyno eu hunain.
  • Mae gan #helofyenwiyw bedwar o werthoedd craidd y dylid eu cynnal fel rhan o ofal tosturiol. Rydym ni hefyd yn cynnal y gwerthoedd hyn: 

hello my name is logo

 

Cyfathrebu

Mae cyfathrebu yn hollbwysig. Mae cyfathrebu'n effeithiol, yn amserol ac mewn ffordd sydd wedi'i deilwra'n arbennig i'r claf yn gwneud gwahaniaeth mawr, a chyflwyno eich hunain yw'r cam cyntaf o wneud hynny.

 

Gwneud y pethau bychain

Mae'r pethau bychain wir yn bwysig - yn wir, nid bychain mohonynt o gwbl, maen nhw'n enfawr ac yn bwysig mewn cymdeithas yn ogystal ag unrhyw fath o ofal iechyd.  Gallai olygu rhywun yn eistedd wrth eich ymyl yn hytrach na sefyll o'ch blaen, neu ddal drws yn agored i rywun sydd eisiau mynd heibio.

 

Rhoi'r Claf wrth Wraidd Pob Penderfyniad

“Dim penderfyniad amdanaf i heb yn wybod i mi". Mae gwirionedd mawr i'r geiriau hyn yma maes gofal iechyd, gan mai'r claf yw'r person pwysicaf a dylid rhoi ystyriaeth iddynt ym mhopeth a wneir.

 

Gwelwch fi

Mae’n bwysig gweld mai person yw'r claf, nid salwch neu rif gwely. Mae unigolion yn fwy na dim ond afiechyd, maen nhw'n bobl, yn aelod teulu, yn ffrind ayyb, a dylem i gyd gofio gweld yr unigolyn yn hytrach na'r rheswm y maen nhw'n derbyn gofal iechyd.

 

EWCH I WEFAN HELLO MY NAME IS