Gwefannau Elusennau

Gwybodaeth am Ganser

cancer research logo

Gwasanaeth gwybodaeth rhad ac am ddim a ddarperir gan Cancer Research UK ynglŷn â chanser a gofal canser i bobl sydd â chanser a'u teuluoedd. Mae gwybodaeth wedi'i fformatio mewn ffordd sy'n ei gwneud hi'n hawdd deall y wefan.

 

Cymorth Canser

Cancer Backup logo

Un o brif elusennau Ewrop sy'n cynnig gwybodaeth am ganser, gyda dros 4,500 o dudalennau o wybodaeth gyfredol am ganser, cyngor ymarferol a chymorth i gleifion canser, eu teuluoedd a'u gofalwyr.

 

Diabetes UK

Diabetes UK logo

Yr elusen fwyaf yn y DU sydd wedi ymroi i ofal a thriniaeth pobl sydd â diabetes er mwyn gwella ansawdd bywyd y bobl hynny sydd â'r cyflwr.

 

Asthma UK

Asthma UK Logo

Mae'r wefan hon wedi'i hailwampio er mwyn cwrdd ag anghenion y miloedd o bobl sydd â asthma sy'n ymweld â'r safle bob dydd, naill ai i ddod o hyd i wybodaeth bwysig am asthma neu am sut i'w reoli.

 

Y Gymdeithas Alzheimer's

Alzheimer's Society Logo

Gwybodaeth gynhwysfawr i bobl â phob math o dementia. Mae'r Gymdeithas Alzheimer yn sefydliad aelodaeth, sy'n gweithio i wella ansawdd bywyd y bobl sy'n cael eu heffeithio gan ddementia yng Nghymru, Lloegr, a Gogledd Iwerddon.

 

Guide Dogs for the Blind

Guide Dogs for the Blind Logo

Mae Guide Dogs for the Blind eisiau byd lle y gall pob person dall neu rannol ddall fwynhau'r un hawliau, cyfleoedd a chyfrifoldebau â phawb arall. Eu cenhadaeth yw darparu cŵn tywys a gwasanaethau symudedd eraill sy'n cynyddu annibyniaeth ac urddas pobl ddall neu rannol ddall. Rydym yn ymgyrchu am well gwasanaethau adsefydlu a mynediad dirwystr i bobl ddall neu rannol ddall.

 

Y Sefydliad Iechyd Meddwl

Mental Health Foundation Logo

Sefydlwyd Y Sefydliad Iechyd Meddwl yn 1949 ac mae'n un o brif elusennau'r DU sy'n darparu gwybodaeth, yn cynnal ymchwil, yn ymgyrchu ac yn gweithio i wella gwasanaethau i unrhyw un sy'n cael eu heffeithio gan broblemau iechyd meddwl, beth bynnag fo'u hoedran neu ble bynnag maen nhw'n byw.

 

Epilepsy Action

Epilepsy Action Logo

Epilepsy Action yw'r sefydliad epilepsi mwyaf dan arweiniad aelodau ym Mhrydain, sy'n weithredu fel llais y tua 456,000 o bobl sydd ag epilepsi yn y DU, yn ogystal â'u ffrindiau, eu teuluoedd, eu gofalwyr, eu gweithwyr iechyd proffesiynol a'r nifer fawr o bobl eraill sy'n cael eu heffeithio gan y cyflwr.

 

Sefydliad Prydeinig y Galon

British Heart Foundation Logo

Ein gweledigaeth yw byd lle nad yw pobl yn marw'n o flaen eu hamser o glefyd y galon. Byddwn yn cyflawni hyn drwy ein hymchwil arloesol, ein gweithgarwch atal hanfodol a thrwy sicrhau gofal a chymorth o safon i bobl sy'n byw gyda chlefyd y galon.

Rydym eich angen chi i rannu ein gweledigaeth oherwydd, gyda'n gilydd, gallwn guro celfyd y galon.