Cofnod Gofal Cryno

Crynodeb byr o'ch cofnod meddyg teulu yw eich Cofnod Gofal Cryno. Mae'n hysbysu staff gofal ac iechyd eraill am unrhyw feddyginiaethau yr ydych yn eu cymryd ac am eich alergeddau.

Bydd hwn yn caniatáu i weithwyr iechyd a gofal proffesiynol i gael gwell gwybodaeth feddygol amdanoch chi pan fyddant yn rhoi triniaeth i chi yn y man gofalu. Bydd y newid hwn ond yn parhau yn ystod y pandemig coronafirws. Oni bai bod trefniadau amgen yn cael eu sefydlu cyn diwedd y cyfnod argyfwng, bydd y newid hwn yn cael ei ddiddymu.

Mae gan bob claf sydd wedi cofrestru â meddyg teulu Gofnod Gofal Cryno oni bai eu bod wedi dewis peidio â chael un. Mae'r wybodaeth a geir o fewn eich Cofnod Gofal Cryno yn caniatáu i staff iechyd a gofal nad ydynt yn rhan o'ch meddygfa i gael mynediad ar wybodaeth a fydd yn eu galluogi i roi gofal mwy diogel i chi, i leihau'r perygl o wneud camgymeriadau wrth roi presgripsiwn, ac i wella profiad y claf.

Mae eich Cofnod Gofal Cryno yn cynnwys gwybodaeth sylfaenol am eich alergeddau a'ch meddyginiaethau yn ogystal ag unrhyw adweithiau yr ydych wedi'u cael i feddyginiaethau yn y gorffennol.

Mae rhai cleifion, gan gynnwys rhai â chyflyrau iechyd hir dymor, eisoes wedi cytuno i rannu gwybodaeth ychwanegol yn eu Cofnod Gofal Cryno. Mae'r wybodaeth ychwanegol yma'n cynnwys gwybodaeth am hanes meddygol sylweddol (yn y gorffennol a'r presennol), y rhesymau dros gymryd meddyginiaethau, gwybodaeth am gynllun gofal, ac imiwneiddio.

Yn ystod cyfnod y pandemig coronafirws bydd gwybodaeth ychwanegol o'ch cofnod Meddyg Teulu yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn eich Cofnod Gofal Cryno oni bai eich bod eisoes wedi dweud wrth y GIG nad ydych am i'r wybodaeth yma gael ei rhannu.

 Hefyd, bydd newid dros dro i gynnwys codau sy'n ymwneud â COVID-19 yn benodol o fewn y wybodaeth ychwanegol , o ran amau COVID-19, cadarnhau COVID-19, y Rhestr Cleifion a Warchodir, a gwybodaeth arall sy'n ymwneud â COVID-19.

Trwy gynnwys y wybodaeth ychwanegol yma o fewn eich Cofnod Gofal Cryno gall staff iechyd a gofal roi gwell gofal i chi pan fyddwch angen gofal iechyd y tu hwnt i'ch practis meddyg teulu arferol:

  • mewn argyfwng
  • pan fyddwch ar wyliau
  • pan fo'ch meddygfa ar gau
  • mewn clinig cleifion allanol
  • pan fyddwch yn ymweld â fferyllfa
 

Mae Gwybodaeth Ychwanegol wedi'i gynnwys yn eich Cofnod Cryno

Mewn ymateb i'r pandemig coronafirws (COVID-19) rydym wedi diddymu, dros dro, y gofyniad am ganiatâd penodol i rannu'r wybodaeth ychwanegol sydd ar eich Cofnod Gofal Cryno. Bydd y newid yn y gofyniad yn cael ei adolygu unwaith y bydd y pandemig wedi darfod. 

Os ydych eisoes wedi optio allan o gael Cofnod Gofal Cryno, neu os ydych wedi dweud yn benodol nad ydych am rannu'r wybodaeth ychwanegol o fewn eich Cofnod Gofal Cryno, rydym yn eich sicrhau y byddwn yn parhau i barchu a gweithredu'ch dymuniadau. 

Bydd y wybodaeth ychwanegol yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol o'ch cofnod meddyg teulu, gan gynnwys:

  • materion iechyd fel dementia neu ddiabetes
  • manylion eich gofalwr
  • eich dymuniadau o ran gofal
  • anghenion cyfathrebu, os ydych yn cael trafferth clywed neu angen dehonglwr er enghraifft

Bydd hyn yn helpu staff meddygol i roi'r gofal cywir i chi ac i barchu eich dewisiadau pan fyddwch angen gofal y tu hwnt i'ch practis meddyg teulu. Mae cynnwys mwy o wybodaeth ar eich Cofnod Gofal Cryno yn golygu y bydd ganddynt well dealltwriaeth o'ch anghenion a'ch dymuniadau.

Pan fyddwch yn derbyn triniaeth y tu hwnt i'ch practis meddyg teulu arferol, ni all y staff yno weld cofnod meddygol eich meddygfa. Gall edrych ar eich Cofnod Gofal Cryno gyflymu eich triniaeth a sicrhau eich bod chi'n derbyn y meddyginiaethau a'r driniaeth gywir.

Yr unig rai a allai weld eich Cofnod Gofal Cryno yw gweithwyr iechyd proffesiynol cofrestredig a rheoledig, megis doctoriaid, nyrys, parafeddygon, fferyllwyr, a'r staff sy'n gweithio dan eu goruchwyliaeth uniongyrchol. Yr unig adegau y bydd eich Cofnod Gofal Cryno yn cael ei agor yw pan fydd gweithiwr iechyd proffesiynol angen rhoi gofal i chi yn benodol. Ni all staff sy'n gweithio i sefydliadau sydd ddim yn rhoi gofal uniongyrchol gael mynediad at eich Cofnod Gofal Cryno.

Bydd gweithwyr gofal iechyd yn gofyn am eich caniatâd cyn agor eich Cofnod Gofal Cryno oni bai ei fod yn achos meddygol brys ac nad ydych yn gallu rhoi eich caniatâd.

 

Diogelu gwybodaeth eich Cofnod Gofal Cryno

Bydd staff yn gofyn am eich caniatâd i agor eich Cofnod Gofal Cryno (oni bai ei bod yn achos brys a chithau'n anymwybodol, er enghraifft), a dim ond staff â'r lefelau cywir o ganiatâd diogelwch all gael mynediad i'r system, felly mae eich gwybodaeth yn ddiogel. Gallwch ofyn i sefydliad ddangos cofnod i chi o bwy sydd wedi edrych ar eich Cofnod Gofal Cryno - gelwir hyn yn Gais Gwrthrych  am Fynediad at Ddata.

Dysgwch sut i wneud Cais Gwrthrych am Fynediad at Ddata.

 

Optio Allan

Diben y Cofnod Gofal Cryno yw gwella'r gofal yr ydych yn ei dderbyn, fodd bynnag, os nad ydych eisiau Cofnod Gofal Cryno gallwch ddewis optio allan. Os ydych yn dymuno gwneud hyn, dywedwch wrth eich meddyg teulu neu cwblhewch ffurflen optio allan o Gofnod Gofal Cryno a'i dychwelyd i'ch meddygfa

Waeth beth fo'ch penderfyniadau o ran caniatâd Cofnod Gofal Cryno yn y gorffennol, mae modd i chi newid eich meddwl unrhyw bryd. Gallwch ddewis unrhyw un o'r dewisiadau canlynol:

  1. Cael Cofnod Gofal Cryno sy'n rhannu gwybodaeth ychwanegol. Mae hyn yn golygu y gall unrhyw weithiwr iechyd gofal proffesiynol cofrestredig, rheoledig, ac â chaniatâd gael mynediad at eich Cofnod Gofal Cryno â gwybodaeth ychwanegol os ydynt angen rhoi gofal uniongyrchol i chi.
  2. Cael Cofnod Gofal Cryno sy'n rhannu'r wybodaeth graidd yn unig. Mae hyn yn golygu y gall unrhyw weithiwr iechyd gofal proffesiynol cofrestredig, rheoledig, ac â chaniatâd gael mynediad at eich Cofnod Gofal Cryno os ydynt angen rhoi gofal uniongyrchol i chi.
  3. Optio allan o gael Cofnod Gofal Cryno yn gyfan gwbl. Mae hyn yn golygu nad ydych am i unrhyw wybodaeth gael ei rannu â gweithwyr iechyd gofal proffesiynol cofrestredig, rheoledig, ac â chaniatâd sy'n ymwneud â rhoi gofal uniongyrchol i chi, gan gynnwys mewn argyfwng. 

I wneud y newidiadau hyn, dylech ddweud wrth eich meddygfa neu gwblhau'r ffurflen ganiatâd Cofnod Gofal Cryno cleifion a'i dychwelyd i'ch meddygfa.

 

Rhagor o wybodaeth ynglŷn â'ch cofnodion iechyd

Darllenwch ragor am eich cofnodion meddygol.