Tîm y Feddygfa

Yma ym Meddygfa Bron-Y-Garn, mae ein Tîm Gweinyddol penodedig yn cefnogi ein Partneriaid Meddyg Teulu, ein Clinigwyr, a'n Tîm Derbynfa i roi'r gofal gorau posibl ac i sicrhau fod gwaith y feddygfa yn mynd rhagddo'n rhwydd.

Ni sy'n gofalu am waith rheoli'r feddygfa o ddydd i ddydd, gan gynnwys atgyfeirio cleifion, gwneud adroddiadau meddygol, cyfathrebu â gofal eilaidd, rheoli stoc, codio, ac adrodd - dim ond rhai o'r swyddi yr ydym yn eu gwneud i sicrhau fod y feddygfa'n gweithio'n effeithlon.

Rydym yn croesawu adborth gan gleifion, mae'n ein helpu i roi'r gwasanaeth gorau posibl i chi ym Meddygfa Bron-y-Garn.