Tîm Nyrsio

Jayne, Jacki, a Zoe sy'n cynnal ein Tîm Nyrsys Practis yma ym Mron-y-Garn, a nhw fydd yn eich cefnogi trwy afiechydon cronig fel Asthma, COPD, a Diabetes. Maent wedi'u hyfforddi i  gynnal Spirometreg, i chwistrellu clustiau, ac i roi asesiadau traed sy'n gymorth wrth wneud gwiriadau diabetes. Gallant roi cymorth gyda materion iechyd menywod, gan gynnwys sgrinio serfigol a dulliau atal cenhedlu. Mae'r tîm Nyrsys Practis wedi'u hyfforddi i gymryd samplau gwaed; rhoi profion electrocardiograff; mesur pwysedd gwaed; tynnu pwythau; gofalu am glwyfau; imiwneiddiadau fel y brechlyn ffliw, yr eryr, a brechlynnau niwmococol; yn ogystal â'r Clinig Babanod wythnosol. 

Maent hefyd yn rhoi cymorth yn y clinig coil a chyda mân lawdriniaethau.

Trwy'r clinigau mae ein Tîm yn hyrwyddo addysg iechyd a'n rhoi cyngor dietegol, ac maent yn barod i roi cyngor a gwybodaeth o ran imiwneiddio cyn Teithio.

Rydym hefyd yn hyrwyddo 'E consult' y gellir ei ddefnyddio ar gyfer adolygiadau rheolaidd o asthma, gorbwysedd, ac atal cenhedlu.

Mae ein Tîm Cynorthwywyr Gofal Iechyd, Helen a Cheryl, yn cefnogi'r Tîm Nyrsio. Mae'r ddwy wedi'u hyfforddi i gymryd samplau gwaed, profion electrocardiograff, i fesur pwysedd gwaed, ac i gefnogi gofal clwyfau. Maent yn cynorthwyo wrth gymryd samplau gwaed ar gyfer methotrexate neu feddyginiaethau eraill sydd angen eu monitro'n rheolaidd.