Y Meddygon

Croeso i dîm Meddygon Teulu Meddygfa Bron-y-Garn. Bydd rhai yn eu galw'n feddygon teulu (GPs), ec eraill yn eu galw'n ddoctoriaid. 

Mae ein tîm Meddygon Teulu yma i ateb gofynion gofal cymhleth ein cleifion. Maent yn cael cefnogaeth gan dîm medrus o weithwyr iechyd proffesiynol eraill. 

O fewn ein tîm o Feddygon Teulu, fe welwch fod gennym Uwch Bartner a sawl Partner. Dyma'r bobl sy'n gyfrifol am redeg y feddygfa.