Cynaliadwyedd - Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud

Mae cynaliadwyedd yn un o'n gwerthoedd craidd ni ym meddygfa Bron-y-Garn. Mae ein staff yn frwd dros wneud newidiadau a gwelliannau, a hynny trwy fynd i'r afael â'n hôl troed carbon a'n cynhyrchiad o wastraff, fel unigolion a chyda'n gilydd.

Sefydlwyd Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru gan Isadran Gofal Sylfaenol, Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2022. Gall y Fframwaith hwn helpu contractwyr gofal sylfaenol annibynnol (meddygon teulu, fferyllfeydd cymunedol, practisau optometreg a phractis deintyddol) i wella eu cynaliadwyedd a’u heffaith amgylcheddol.

image depicting sustainability

Mae’r Fframwaith wedi’i ddatblygu mewn cydweithrediad ag ystod eang o randaliadau ac mae wedi’i gymeradwyo’n ffurfiol gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, Cymdeithas Ddeintyddol Prydain, y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol, Optometreg Cymru, a Fferylliaeth Gymunedol Cymru. Mae Meddygfa Bron-y-Garn ar hyn o bryd yn gweithio tuag at y wobr Aur fel rhan o ymrwymiad y Practis i gynaliadwyedd.

Beth ydym ni'n ei wneud i fod yn fwy cynaliadwy?

  • Ar hyn o bryd, rydym ni fel meddygfa wedi ymrwymo i weithredu ac ennill y cymwyster 'Green Impact' gan y RCGP. Pecyn cymorth yw hwn sy'n caniatáu i feddygfeydd ar hyd a lled y Deyrnas Unedig arddangos sut y maent yn gweithredu mewn modd sy'n gynaliadwy yn amgylcheddol ac yn economaidd.
  • Meddygfeydd Parkrun – Rydym wedi ymuno â threfnwyr Parkrun lleol i hyrwyddo rôl ymarfer corff o ran gwella lles cleifion a staff.
  • Gorsaf Ail-lenwi - Rydym wedi cytuno i gofrestru fel 'gorsaf Ail-lenwi' - gall cleifion a staff ail-lenwi poteli dŵr yma gan leihau'r defnydd o gynwysyddion untro. 
  • Active Practice (RCGP) - Mae gwaith ymchwil wedi dangos fod gwneud ymarfer corff yn rheolaidd yn gallu lleihau'r perygl o glefyd coronaidd y galon a strôc o hyd at 35%, a lleihau'r perygl o farwolaeth gynnar o hyd at 30%. Fel Active Practice rydym ni wedi arddangos ein bod ni wedi cymryd nifer o gamau i gynyddu lefelau ymarfer corff ymhlith cleifion a staff trwy:
  1. Leihau ymddygiadau segur ymhlith cleifion a staff
  2. Gweithio mewn partneriaeth â darparwr ymarfer corff lleol i gefnogi'r feddygfa wrth gael mwy o bobl i fod yn egnïol
  • Cynaliadwyedd – Rydym wedi ymgorffori’r meysydd canlynol o fewn ein harferion a'n diwylliant yma ym Meddygfa Bron-y-Garn
  1. Ymsefydlu Green Impact o fewn diwylliant ein sefydliad
  2. Gwella ein heffeithlonrwydd ynni
  3. Caffael bwyd a diod mewn modd cyfrifol ac osgoi'r defnydd o blastig pan fo'n bosibl
  4. Lleihau gwastraff a chynyddu ailgylchu
  5. Hyrwyddo trafnidiaeth gynaliadwy a'r defnydd o geir trydanol
  6. Prynu mewn modd cynaliadwy
  7. Lleihau ein defnydd o bapur
  8. Llai o bresgripsiynu
  9. Gweithredu'r pecyn cymorth Green Impact NIS/RGCP