Archebu presgripsiwn rheolaidd

patients using my health online

 

my health online logo

Gallwch wneud cais am bresgripsiwn rheolaidd ar-lein. I wneud hyn byddwch angen cofrestru â'r feddygfa a derbyn cyfrinair sy'n caniatáu i chi ddenfyddio'r gwasanaeth. Cwblhewch y ffurflen gais sydd ar gael yn y dderbynfa os gwelwch yn dda,.

Os oes cyfrinair gennych eisoes, gallwch ddefnyddio'r ddolen isod i gael mynediad at Fy Iechyd Ar-lein.

DEFNYDDIO FY IECHYD AR-LEIN

 

Gwasanaeth Archebu Presgripsiwn Rheolaidd

Mae'r Gwasanaeth Archebu Presgripsiwn Rheolaidd ar 01656 311010 yn ffordd rwydd o archebu eich presgripsiwn rheolaidd dros y ffôn.

Mae'r gwasanaeth hwn ar gael o Ddydd Llun hyd Ddydd Gwener rhwng 9yb a 4yh (heblaw am wyliau'r Banc)

Byddwch yn siarad â staff profiadol, ymroddgar y GIG sydd wedi'u hyfforddi'n drylwr, fydd â mynediad at gofnodion eich presgripsiynau rheolaidd ac sy'n gallu cysylltu â'ch meddyg teulu yn syth pe bai angen.

Bydd eich presgripsiwn yn cael ei hanfon i’ch fferyllfa o fewn 3 diwrnod gwaith. O ganlyniad, mae'n hollbwysig eich bod chi'n archebu eich meddyginiaeth mewn da bryd er mwyn osgoi rhedeg allan. Cofiwch roi amser i'ch fferyllfa baratoi eich presgripsiwn unwaith y bydd eich meddyg teulu wedi ei gymeradwyo a'i lofnodi.

Gallwch bostio ceisiadau am bresgripsiwn yn y blwch pwrpasol wrth fynedfa'r feddygfa hefyd. Y ffordd orau o wneud hyn yw defnyddio'r slip sydd ynghlwm â'ch presgripsiwn diwethaf a thicio'r blwch sydd gyferbyn â'r feddyginiaeth angenrheidiol.

Rydym hefyd yn derbyn ceisiadau gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein ddiogel

Repeat Prescription Image