Ymwadiad Meddygol


Mae'r wybodaeth iechyd a geir ar y wefan hon ar gyfer defnydd ein cleifion yn unig. Os ydych yn amau unrhyw wybodaeth a ddarllenir neu os ydych yn ansicr ynglŷn â'r hyn y dylech ei wneud, dylech geisio cyngor ymarferydd iechyd cymwys fel eich meddyg teulu.

Er ein bod wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau fod y wybodaeth sydd ar y wefan hon yn gywir ac yn gyfredol, ni allwn warantu hyn. Ni all y Feddygfa fod yn gyfrifol am unrhyw niwed, golled, neu ddifrod sy'n deillio o anghywirdebau ar y wefan hon neu sy'n deillio o weithredoedd person yn sgil darllen gwybodaeth ar y wefan hon.

Gallai'r wefan gynnwys dolenni i wefannau trydydd parti. Defnyddir y dolenni hyn i ddarparu gwybodaeth ychwanegol, nid ydynt yn arwydd fod y Feddygfa yn ardystio gwefannau o'r fath nac ychwaith eu cynnwys. Nid yw'r Feddygfa yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw niwed, golled, neu ddifrod sy'n deillio o ddefnyddio'r gwefannau sydd â dolenni iddynt neu sy'n deillio o ddenfyddio'r wybodaeth a gyhoeddir ar unrhyw un o dudalennau'r gwefannau sydd â dolenni iddynt.

Mae'r Feddygfa yn cadw'r hawl i newid ei systemau a'i gweithdrefnau ar unrhyw bryd heb rybudd.

Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i sicrhau nad oes firysau ynghlwm â chynnwys y gellir ei lawrlwytho, ni all y Feddygfa dderbyn unrhyw atebolrwydd am ddifrod yn sgil heintiad gan firws.