Telerau Defnydd

Defnydd a Ganiateir

Rhoddir caniatad i ymwelwyr y wefan gael mynediad at ddeunyddiau cyhoeddedig (cynnwys) yn ddarostyngedig i'r telerau hyn. Trwy ddefnyddio'r wefan, rydych yn ymrwymo i'r telerau defnydd.

Er y gellir cael mynediad at, lawrlwytho, a defnyddio cynnwys er dibenion personol neu anfasnachol (e.e. ymchwil preifat, astudiaeth, neu ddefnydd mewnol); ni chaiff ymwelwyr atgynhyrchu neu ail-gyhoeddi unrhyw ddeunyddiau oddi ar y wefan hon heb ganiatâd y wefan / perchennog yr hawlfraint.

Mae'r delweddau, y logos, a'r graffigau a ddefnyddir ar y wefan hon yn perthyn i ni ac/neu i drydydd parti. Ni ellid eu defnyddio heb ganiatâd perchennog yr hawlfraint.

Rydych yn cydnabod fod yr holl hawliau eiddo deallusol sy'n perthyn i'r wefan hon yn eiddo i'r feddygfa a, phan fo'n briodol, i drydydd partïon cysylltiedig.

 

Gwybodaeth Bersonol

Pan fyddwch yn cynnig data yn wirfoddol ar y wefan hon sy'n cynnwys manylion y gellid eu defnyddio i'ch adnabod (mae hyn yn cynnwys cyflwyno ffurflenni adborth, holiaduron ayyb.), bydd y wybodaeth a gyflwynir ond yn cael ei ddefnyddio i ymateb i'ch ymholiadau ac er y dibenion gwreiddiol. Nid ydym yn rhannu gwybodaeth am ddefnyddwyr y we gyda thrydydd partïon.

 

Diogelu rhag Firysau

Rydym yn gwneud ein gorau i wirio a phrofi deunyddiau am firysau. Fodd bynnag, rydym yn argymell i chi ddefnyddio rhaglen gwrth-firysau ar unrhyw ddeunydd yr ydych yn ei lawrlwytho oddi ar y we. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad, neu ddifrod i'ch data neu eich system gyfrifiadurol a allai ddigwydd wrth ddefnyddio deunyddiau a ddaw oddi ar y wefan hon.

 

Ymwadiad

Rydym yn ofalus wrth sicrhau fod cynnwys y wefan hon yn gywir. Fodd bynnag, dim ond er gwybodaeth gyffredinol y rhoddir gwybodaeth, ac rydych yn ei ddefnyddio ar eich risg eich hun. Ni fyddwn yn atebol am ddifrod neu golled sy'n deillio o unrhyw weithred neu hepgoriad sy'n deillio o ddefnyddio'r wybodaeth sydd ar y wefan hon.

 

Gwefannau Allanol

Nid yw'r feddygfa hon yn gyfrifol am gynnwys neu ddibynadwyedd unrhyw wefannau sydd wedi'u cysylltu â dolenni. Ni fyddwn yn atebol am gynnwys neu ganlyniadau dilyn unrhyw gyngor a roddir ar wefannau o'r fath.

Ni ddylid ystyried rhestru fel ardystiad o unrhyw fath.

Ni allwn sicrhau y bydd y dolenni hyn yn gweithio trwy'r adeg ac nid oes gennym reolaeth dros argaeledd y tudalennau sydd wedi'u cysylltu â dolenni neu newidiadau yng nghyfeiriadau gwefannau.

Mae'r feddygfa'n cadw'r hawl i wrthod neu dynnu dolenni i unrhyw wefan.

 

Diwygiadau yn y Dyfodol

Bydd diwygiadau dilynol i'r telerau hyn i'w cael ar y wefan hon.