Diweddariad Coronafeirws (COVID 19) Bron-y-Garn

Diolch i bawb yn ein cymuned am gydweithio a diogelu ei gilydd drwy gadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo’n lân ac aros gartref gymaint â phosibl. 

Mae wedi bod yn anodd, ond gwerthfawrogwn eich ymrwymiad i hyn. Yma ym Mron-y-Garn, rydym yma i’ch helpu i gael y gofal sydd ei angen arnoch. Mae’n bwysig peidio ag aros nes ei bod yn rhy hwyr. Efallai y gallwn ddelio â’ch problem dros y ffôn, drwy fideo neu ar-lein drwy ddefnyddio e-consult felly cysylltwch â ni.

coronavirus

 

Mygydau Wyneb

Os byddwch yn ymweld â’r feddygfa, gofynnwn ichi wisgo gorchudd wyneb, p’un a yw’n sgarff, mwgwd a wnaed gartref, neu hyd yn oed bandana. Mae gwisgo gorchudd wyneb yn helpu i leihau lledaeniad y coronafeirws o unrhyw un sydd wedi’i heintio ond nad yw eto’n dangos symptomau. Mae tystiolaeth yn awgrymu nad yw gwisgo gorchudd wyneb yn eich diogelu, ond gall ddiogelu eraill os ydych chi wedi’ch heintio â’r coronafeirws.

Hoffem ddiolch i Babette a gweddill y tîm yng Ngrŵp Gwnïo Fairfield am eu gwaith rhagorol yn gwneud mygydau a bagiau ar gyfer sgrybiau. Gwerthfawrogwn hyn yn fawr.

 

Eich Ymweliad â'r Feddygfa

Os oes rhaid ichi ymweld â’r feddygfa, dylech wneud apwyntiad yn gyntaf. Fe sylwch ar ambell newid. Mae gan ein hystafell aros fwy o ofod ar gyfer cadw pellter cymdeithasol ac rydym yn lleihau nifer y cleifion sydd yno ar yr un pryd. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y byddwn yn gofyn ichi aros yn eich car nes bod lle yn yr ystafell aros. Mae gennym lif newydd drwy’r feddygfa, gyda’r fynedfa drwy’r drws blaen a’r allanfa drwy’r drws cefn. Efallai y gwelwch arwyddion newydd a gorsafoedd diheintio. Bydd ein nyrsys a’n meddygon yn gwisgo offer diogelu personol (PPE) i’ch diogelu chi a ni. Ond cofiwch - rydym yr un mor gyfeillgar ag erioed! 

Published: Jun 4, 2020