Y Grŵp Cyfranogiad Cleifion (PPG)

Image of a Patient Group

Beth mae'r PPG yn ei wneud? 

Mae'r PPG yn cwrdd bob 12 wythnos. Fel arfer, cynhelir cyfarfodydd ar Ddydd Llun am 6pm. Mae partneriaid y feddygfa a Rheolwr y Practis yn mynychu'r cyfarfodydd, ac maen nhw'n gyfle i gael trafodaeth ar y cyd am faterion sy'n ymwneud â'r Feddygfa.

Gallai hyn olygu cynnig cyngor am gynllunio gwasanaethau ar gyfer y dyfodol, datblygiadau yn y Feddygfa, a lleisio materion sy'n peri pryder i gleifion.

Mae'r PPG hefyd yn helpu gyda datblygiad gwybodaeth cleifion, megis data cleifion, y system apwyntiadau, a materion sy'n ymwneud â pharcio ceir.

Bydd aelodau'r PPG yn sgwrsio â chleifion am eu profiadau ym Mron-y-Garn hefyd, gan gynnig cyngor pan fo'n briodol.

Nid fforwm ar gyfer cwyno yw'r PPG

 

Pryd a ble mae cyfarfodydd y PPG yn cael eu cynnal?

Fel arfer, cynhelir cyfarfodydd y PPG ar nos Lun am 6pm yn ystafell fwrdd Meddygfa Bron-y-Garn.  Gallwch weld dyddiadau'r cyfarfoddydd nesaf ar y dudalen ddigwyddiadau yma.  (Cyfarfod nesaf 28 Medi 2020)

 

Y Grŵp Cyfranogiad Cleifion Iau (PPG Iau)

Beth yw PPG Iau?

Grŵp Cyfranogiad Cleifon a fforwm iechyd sy'n cynnwys pobl ifanc o'r ardal yw PPG Iau. Mae sefydliad yn trafod ffyrdd o wella llesiant a gwasanaethau iechyd ar gyfer pobl ifanc, megis gweithio gyda chlinigau ieuenctid, siarad gyda meddygon teulu a nyrsys, yn ogystal â hyfforddi i fod yn Gysylltwyr Cymunedol.

Mae PPG Iau yn cynnig cyfleoedd gwych i unrhyw berson ifanc sy'n 19 oed neu'n iau ac sydd â diddordeb mewn iechyd, meddygaeth, ac/neu annog llais yr ifanc. 

Rydym ni'n awyddus i sefydlu Grŵp Cyfranogiad Cleifion Iau gyda'r bwriad o gynnal cyfarfodydd bob 8-12 wythnos ar brynhawniau yn ystod yr wythnos.

Os gwelwch yn dda, mynegwch eich diddordeb trwy gwblhau ffurflen gais PPG

MYNEGAI - GRŴP CLEIFION

PRIF FYNEGAI