Datganiad Hygyrchedd

Mae'r wefan hon yn cael ei chynnal gan Feddygfa Bron-y-Garn

Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio ein gwefan, ac rydym wedi'i chynllunio i fod yn hygyrch.

 

Sut allwch chi ddefnyddio'r wefan hon

Ar y wefan hon, dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad, a ffontiau
  • chwyddo i mewn hyd at 300% gyda'r testun yn aros yn weladwy ar y sgrin, a'r rhan fwyaf o'r delweddau'n graddio heb golli eglurder
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • darllen y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin, gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver
  • darllen y rhan fwyaf o'r wefan ar ddyfeisiau heb sgrin, fel cyfrifiadur braille
  • defnyddio'r wefan hyd yn oed os yw Javascript wedi'i ddiffodd

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.

Mae peth o'n cynnwys yn dechnegol, ac rydym yn defnyddio termau technegol lle nad oes geiriad haws y gallwn ni ei ddefnyddio heb newid ystyr y testun.

Os oes gennych anabledd, yna mae gan AbilityNet gyngor i'ch helpu i wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio.

 

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Nod yr holl dudalennau ar y wefan yw cydymffurfio â'r safonau Hygyrchedd a nodir gan Gonsortiwm y We Fyd-Eang (W3C) a chanllawiau hygyrchedd eraill. Profir y wefan hon yn erbyn Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.1. Mae'r canllawiau hyn yn esbonio sut i wneud cynnwys y we yn fwy hygyrch i bobl ag anableddau, ac yn hawdd i'w ddefnyddio gan bawb. Dyluniwyd holl dudalennau'r wefan hon i fod yn gwbl hygyrch gyda'r safonau ac mae'n cwmpasu pob anabledd sy'n effeithio ar fynediad i'r wefan.

 

Sut i gael gwybodaeth mewn fformat hygyrch

Os ydych chi'n cael trafferth cael gafael ar wybodaeth ar y wefan hon, neu os hoffech chi gael unrhyw waith gennym mewn fformat gwahanol fel PDF, print mawr, darllen hawdd, recordiad sain, neu braille:

Byddwn yn ystyried eich cais, ac yn ymateb o fewn 30 diwrnod gwaith.

 

Rhoi gwybod am unrhyw broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan.

Os ydych yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt yn cael eu rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â'n rheolwr practis drwy ddefnyddio ein ffurflen Cysylltwch â Ni ar-lein ddiogel.

 

Gweithdrefn orfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi'r rheoliadau hygyrchedd. Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS)

 

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni'n bersonol

Rydym yn darparu gwasanaeth trosglwyddo testun i bobl sy'n F/fyddar, yn drwm eu clyw neu â nam ar eu lleferydd.

Mae gan ein meddygfa ddolenni sain, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad, gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Dysgwch sut i gysylltu â ni.

 

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon.

Mae Meddygfa Bron-y-Garn wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

 

Statws Cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n llawn â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1. 

 

Beth rydyn ni'n ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn monitro cydymffurfiaeth hygyrchedd ein gwefan yn barhaus ac yn dilyn meini prawf canllawiau llym WCAG 2.1 (AA) gydag unrhyw ddiweddariadau a wneir.

Rydym bellach wedi integreiddio Teclyn Hygyrchedd newydd o'r enw UserWay. Gallwch ddarllen mwy am hwn isod.

 

Teclyn Hygyrchedd UserWay

Mae Teclyn Hygyrchedd UserWay yn cynnig dewis eang o swyddogaethau y gall cleifion eu defnyddio er mwyn diwallu eu hanghenion hygyrchedd unigol.

Mae UserWay yn darparu'r swyddogaethau hygyrchedd canlynol:

  • Llywo bysellfwrdd
  • Darllenydd Sgrin
  • Cynyddu Maint Testun
  • Atal Animeiddiadau
  • Blychau cynghorion
  • Trosi i Ffontiau Hygyrch
  • Dolenni i destun wedi'i uwchliwio
  • Llygoden Fwy o Faint
  • Canllaw Darllen
  • Modd Tywyll
  • Modd Golau
  • Gwrthdroi Llwiau
  • Bylchau rhwng Testun
  • Annirlawni Lliw
  • Datgelu Strwythur Tudalen
 

Cydnawsedd â phorwyr a thechnoleg gynorthwyol

Mae'r wefan hon wedi'i dylunio i fod yn gydnaws â'r technolegau cynorthwyol canlynol;

  • NVDA gydag Internet Explorer
  • NVDA gyda Google Chrome
  • NVDA gyda Firefox
  • NVDA gydag Edge
  • NVDA gyda Safari
  • JAWS gydag Internet Explorer
  • JAWS gyda Google Chrome
  • JAWS gyda Firefox
  • JAWS gydag Edge
  • JAWS gyda Safari

Mae sut mae ein gwefan yn edrych ac yn gweithio yn seiliedig ar HTML5, CSS3 ac rydym yn profi am y porwyr canlynol ac yn eu cefnogi:

  • Google Chrome (fersiynau a gefnogir)
  • Mozilla Firefox (fersiynau a gefnogir)
  • Internet Explorer (fersiwn 11 ac uwch)
  • Microsoft Edge (fersiynau a gefnogir)
  • Apple Safari (fersiynau a gefnogir)
 

Sut rydym yn profi'r wefan hon

Rydym yn cynnal profion mewnol yn erbyn materion hygyrchedd hysbys na ellir dod o hyd iddyn nhw drwy brofion awtomataidd, ar sail sampl

Paraotwyd y datganiad hwn ar 17 Mehefin 2021. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 20 Tachwedd 2023 gan Tree View Designs Ltd. Gwnaethom brofi'r hafan a 10 tudalen ar hap. Mae disgwyl i'r adolygiad nesaf gael ei gynnal ar 
20 Tachwedd 2024 gan Tree View Designs Ltd

 

Nodweddion hygyrch rydym yn eu profi â llaw

  • cyferbyniad lliw, a wneir yn ystod y cam dylunio drwy ddefnyddio offer i wirio ein bod yn bodloni safon AAA cymhareb cyferbyniad o 4.5:1
  • gwirio â llaw yn erbyn dilysydd W3C
  • sicrhau bod elfennau'r dudalen yn gywir ar bob maint, gan gynnwys pan fyddant yn chwyddo i 500%
  • archwilio marcio microddata a thestun alt gan ddefnyddio offer arbennig
  • gwirio cynnwys mewn porwr â thestun yn unig
  • defnyddio darllenwyr sgrin i ddarllen y testun yn uchel
  • defnyddio offer efelychu anabledd i bori'r wefan
 

Nodweddion hygyrch rydym yn eu profi gan ddefnyddio offer trydydd parti