Apwyntiad gyda'r meddyg? Ddim o'i angen? Canslwch e!

Rydym ni'n deall bod pobl yn anghofio pethau, pethau fel canslo eu hapwyntiadau â'r meddyg teulu. Cofiwch ganslo eich apwyntiad os nad ydych chi ei angen.

 

Sut i Ganslo Apwyntiad

Os nad ydych yn gallu dod i'ch apwyntiad, os gwelwch yn dda ffoniwch ni ar 01656 812 975 i'w ganslo cyn gynted ag y bo modd: gallai eraill fod angen gweld y meddyg ar frys. 

Neu, gallwch ganslo eich apwyntiad ar y we trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.

Cofiwch y gallai apwyntiadau fod yn brin, a phan fyddwch chi'n methu apwyntiad rydych yn atal rhywun arall rhag cymryd eich lle.

Os byddwch yn canslo o fewn 30 munud i amser yr apwyntiad bydd yn cael ei gofnodi fel eich bod wedi methu'r apwyntiad (DNA).